bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zechariah 5
Zechariah 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
1
Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld sgrôl yn hedfan!
2
Dyma'r angel yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld sgrôl yn hedfan. Mae'n anferth — tua naw metr o hyd, a pedwar metr a hanner o led!”
3
A dyma fe'n dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac mae'n mynd allan drwy'r wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un sy'n dwyn yn cael ei daflu allan o'r gymuned. Mae'r ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd i'r rhai sy'n dweud celwydd. ”
4
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb sy'n defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrio'r tŷ hwnnw'n llwyr — y coed a'r cerrig.”
5
Yna dyma'r angel oedd yn siarad â mi yn camu ymlaen a dweud, “Edrych! Beth wyt ti'n ei weld yn mynd i ffwrdd?”
6
“Beth ydy e?” meddwn i. “Casgen ydy hi,” meddai'r angel. “Mae'n cynrychioli drygioni pawb drwy'r wlad i gyd.”
7
Yna dyma'r caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen!
8
A dyma'r angel yn dweud, “Mae'r wraig yma'n cynrychioli drygioni.” A dyma fe'n ei gwthio hi yn ôl i'r gasgen a slamio'r caead o blwm yn ôl i'w le.
9
Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. (Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr.) Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr.
10
A dyma fi'n gofyn i'r angel, “I ble maen nhw'n mynd â'r gasgen?”
11
A dyma fe'n ateb, “I wlad Babilonia, i adeiladu teml iddi. Pan fydd y deml yn barod, bydd y gasgen yn cael ei gosod ar bedestal yno.”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14