bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zechariah 7
Zechariah 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
1
Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia.
2
Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.
3
Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”
4
Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus.
5
“Dywed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi?
6
Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’
7
Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a pobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.”
8
A dyma Sechareia'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD.
9
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi bod yn ei ddweud, ‘Byddwch yn deg bob amser, yn garedig a thrugarog at eich gilydd.
10
Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon, plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd. A peidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’
11
“Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando.
12
Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt, nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi eu rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD holl-bwerus dywallt ei lid arnyn nhw. “Dwedodd yr ARGLWYDD holl-bwerus.
13
‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw, doedden nhw ddim yn gwrando. Felly pan fyddan nhw'n galw arna i, fydda i ddim yn gwrando chwaith.
14
Yn lle hynny bydda i'n eu hysgubo nhw i ffwrdd mewn storm i wledydd dieithr.’ “A dyna pam mae'r wlad yma'n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14