bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zechariah 8
Zechariah 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
1
Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus:
2
“Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Seion. Dw i wedi gwylltio'n lân am beth maen nhw wedi ei wneud iddi.’
3
“Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n dod yn ôl i Fynydd Seion, a bydda i'n byw yn Jerwsalem. Bydd Jerwsalem yn cael ei galw ‛Y Ddinas Ffyddlon‛, ‛Mynydd yr ARGLWYDD holl-bwerus‛, ‛Y Mynydd Cysegredig‛.’
4
“Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud hefyd, ‘Bydd dynion a gwragedd mewn oed yn eistedd ar sgwariau Jerwsalem unwaith eto — pob un yn pwyso ar ei ffon am eu bod nhw mor hen.
5
A bydd sgwariau'r ddinas yn llawn plant — bechgyn a merched yn chwarae'n braf.
6
Falle fod y peth yn swnio'n amhosibl i'r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘ond ydych chi'n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’
7
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dw i'n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin,
8
a dod â nhw'n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i'n Dduw iddyn nhw. Bydda i'n ffyddlon ac yn deg â nhw.
9
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD holl-bwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati!
10
Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Ro'n i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.
11
Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
12
‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl!
13
O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi ei melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi eu bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’
14
Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna'n union beth wnes i),
15
dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda — felly peidiwch bod ag ofn!
16
“‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn.
17
Peidio bwriadu drwg i'ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i'n casáu pethau fel yna,’ meddai'r ARGLWYDD.”
18
Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus:
19
“Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis yn troi'n ddigwyddiadau hapus — yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru'r gwir a byw yn heddychlon!’
20
“Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Ryw ddydd, bydd pobl o bob man yn dod yma.
21
Bydd pobl o un dref yn mynd i ddweud wrth dref arall, “Gadewch i ni droi at yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn iddo'n bendithio ni. Dewch gyda ni! Dŷn ni'n mynd!”’
22
Bydd lot o bobl wahanol, a gwledydd cryfion yn dod i Jerwsalem, ac yn gofyn i'r ARGLWYDD holl-bwerus eu bendithio nhw.
23
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Bryd hynny bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl mantell Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi! ’”
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14