bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zechariah 3
Zechariah 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 4 →
1
Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, ac roedd Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo.
2
Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n dy geryddu di Satan! Dw i, yr ARGLWYDD, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Mae'r dyn yma fel darn o bren sydd wedi ei gipio allan o'r tân.”
3
Roedd Jehoshwa'n sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd.
4
A dyma'r angel yn dweud wrth y rhai oedd o'i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe'n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i'n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.”
5
A dyma fi'n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw'n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi'r wisg amdano, tra roedd yr angel yn sefyll yno.
6
Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho,
7
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o'm blaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma.
8
Felly gwrando Jehoshwa, a'r offeiriaid sy'n gweithio gyda ti — dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn.
9
Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) — dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’
10
Ac meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a'i goeden ffigys. ’”
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14