bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zechariah 2
Zechariah 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 3 →
1
Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law.
2
Gofynnais iddo, “Ble ti'n mynd?” A dyma fe'n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a'i lled.”
3
Yna dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i'w gyfarfod.
4
Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi!
5
Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o'i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o'i mewn hi.’”
6
“Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai'r ARGLWYDD. “Ro'n i wedi eich chwalu chi i bob cyfeiriad, i'r pedwar gwynt.
7
Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!”
8
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Ar ôl i'w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy'n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!
9
“Dw i'n mynd i'w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i.
10
“Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i'n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai'r ARGLWYDD.
11
“Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â'r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi. Yn wir, bydda i'n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.
12
Bydd yr ARGLWYDD yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o'r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo'i hun unwaith eto.
13
Ust! Pawb drwy'r byd, byddwch dawel o flaen yr ARGLWYDD! Mae e ar fin gweithredu eto o'r lle sanctaidd ble mae'n byw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14