bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
John 18
John 18
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
1
GWedy ir Iesu ðywedyt ypethe hyn, yð aeth allan ef a ei ðiscipulon dros garoc Cedron, lle ydd oeð garð, yr hon ydd aeth y mewn, ef a ei ddiscipulō.
2
Ac Iudas yr hwn a ei bradychoð ef, y adwaenei hefyt y lle: can ys mynych y bysei ’r Iesu yn tramvy yno ef a’ ei ddisipulon.
3
Ac Iudas wedy iddo gahel catyrfa o wyr a’ swyddogion, gan yr Archoffeiriait, a’r Pharisaiait, a ðeuth yno a’ chanthwynt dan‐llestri a’ thewyniō ac arvae.
4
Yno ’r Iesu yn gwybot pop peth a ddelei arnaw, aeth rhacddaw, ac a ddyvot wrthynt, Pwy ’dd ych yn ei gaisiaw?
5
Wy ei atepesont, Iesu o Nazaret. Yr Iesu a ddyvot wrthwynt, My vi yw ef. Ac Iudas hefyt yr hwn y bradychodd ef, oedd yn sefyll gyd ac wynt.
6
Ac er cynted y dybot ef wrthwynt, My vi yw ef, wy aethant yn wysc ei cefn, ac a syrthiesont ir llawr.
7
Yno y gofynodd yddwyn trachefyn, Pwy ’dd ych yn ei gaisiaw? Ac wy a ddywedesont, Iesu o Nazaret,
8
Yr Iesu a atepawdd, Dywedeis y‐chwy, mae my vi yw ef: can hyny a’s mi a gaisiwch, gadwch ir ei hynn vyned ymaith
9
Hyn a vu er cyflawny’r gair yr hwn a ddywedesei ef, O’r ei’n a roddeist ymy, ny cholleis i nebun.
10
Yno Simon Petr ac canthaw gleðyf, ei tynawð, ac a drawodd was yr Archoffeiriat, ac a dores ei glust ðeheu ymaith. Ac enw yr gwas yt oeð Malchus.
11
Yno y dyvot yr Iesu wrth Petr, Dod dy gleddyf yn y wain: Anyd yfaf or cwpan a roðes vy‐Tat ymy?
12
Yno ’r gywdawt a’r penciwdod a’ swyddogion yr Iuddaeon a ddaliesont yr Iesu, ac ei rhwymesont,
13
ac ei ducesont at Annas yn gyntaf (can ys chwegrwn yt oeð ef i Caiaphas, yr hwn oedd Archoffeiriat y vlwyddyn hono)
14
ac Caiaphas oedd hwn, a roesei gycor ir Iuðeon, mae rhaidiol oeð i vn dyn varw tros y popl.
15
Ac Simon Petr oeð yn cālyn yr Ie s u, a’ discipul arall a’r discipul hwnw oedd yn adnabyddus gan yr Archoffeiriat: am hyny yð aeth ef y mewn gyd a’r Iesu i lys yr Archoffeiriat.
16
Ac Petr oedd yn sefyll allan wrth y drws. Yno ydd aeth allan y discipul arall oedd adnabyddus gan yr Archoffeiriat, ac a ymddiddanawdd a’r ddrysores, ac a dduc Petr y mywn.
17
Yno y ddrysores a ðyvot wrth Petr, Any d yw ti thef yn vn o ddiscipulon y dyn hwn? Ef a ðyvot, Nac wyf.
18
A’r gweision a’r swyddogion a savent yno, yr ei a wnaethent daan glo: can ys oer vel yt oedd, ac wy a ymdwyment. Ac Petr hefyt a safai yn ei plith, ac a ymdwymei.
19
Yno ’r Archoffeiriait a ymofynodd a’r Iesu am ei ddiscipulon, ac am ei ddysc.
20
Yr Iesu a atepawdd yð‐aw. My vi a ymadrodeis ar ’oystec ir byd, my vi vyth oedd yn athrawy yn y Syngog ag yn y Templ, lle y dawei ’r oll Iuddaeon ynghyt yn oystat, ac yn guddiedic ny ddywedais i ddim.
21
Paam y govynny i mi? gofyn ir ei’n am clywsant, pa beth ðywedeis wrthwynt: nycha, wyntwy a wyddant pa beth a ddywedais.
22
Gwedy iddaw ddywedyt y pethae hyn, vn or swyddogogion oedd yn sefyll geir llaw, a drawoð yr Iesu a ei wialen, gan ddywedyt, A atepy’r Archoffeiriat velly?
23
Yr Iesu ei atepoð. A’s dywedais yn ddrwc, testolaetha o’r drwc: ac a’s dywedais yn dda, paam i’m trawy?
24
Ac Annas ei d anvones ef yn rhwym at Caiaphas yr Archoffeiriat.
25
Ac Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymaw, a’ dywesont wrthaw, A nyd yw tu hevyt yn vn o y ðiscipulon ef? Ef a watawð, ac a ddyvot, Nac wyf.
26
Vn o weision yr Archofeiriat, car i hwn y toresei Petr ei glust, a ddyvot vvrthavv, Any welais i dydy yn yr ’ardd gyd ef?
27
Yno Petr a wadawdd trachefyn, ac yn y van y canawdd y ceiliawc.
28
Yno y ducesont yr Iesu o ywrth Caiaphas ir dadleduy. A’r borae ytoeð hi, ac wyntwy nid aethāt ir dadlaeduy, rag eu halogy, anyd mal y gallent vwyta yr Pasc.
29
Pilatus yno aeth allā atwynt, ac a ðyuot, Pa achwyn ’sy genwch yn erbyn: y dyn hwnn?
30
Atep a wnaethant a’ dywedyt wrthaw, Pe bysei hwn eb wneythy drwc ny roddesem ni ef atat.
31
Yno y dyvot Pilatus wrthynt, Cymerw‐chwi ef, a’ bernwch ef wrth eich deðyf eich hun ain. Yno y dyvot yr Iuddaeon wrthaw, Nid rydd i ni roi nep i angae.
32
Hynny vu er cyflawny ’r gair a ddywedesei ’r Iesu, gan arwyddocay o pa angae y byddei varw.
33
Velly Pilatus aeth y mewn ir dadlaeduy trachefyn, ac a alwoð yr Iesu, ac a ðyyvot wrthaw. Ai‐tu yw’r Brenhin yr Iudaeon?
34
Yr Iesu a atepawdd iddavv, Ae o hanat tuhun y dywedy hynn, ai er eill ei dyvot yty am danaf?
35
Pilatus a atepawdd. Ae Iuddew yw vi? dy genedl dy hun, a’r Archoffeiriait, a’th roesan di ataf vi. Pa beth a wnaethost?
36
Yr Iesu a atepawdd, Vy‐ teyrnas i nid yw o’r byt hwnn: pe o’r byt hwnn vesei vy‐teyrnas, yn wir vy‐gwasanaethwyr a ymddladdent, mal na’m rhoddit ir Iuddaeon: an’d yr owrhon nid yw vy‐teyrnas o dd yma.
37
Pilatus yno a ddyvot wrthaw, Can hyny ai Teyrn ytwyt? Yr Iesu a atepawdd. Tu ys y’n dywedyt mae Teyrn ytwyf: er mwyn hyn i’m ganet, ac er mwyn hyn y dauthym ir byt, ’sef i tostolaethy ir gwirioneð: pop vn a han yw o’r gwirionedd, a wrendy vy llef erydd.
38
Pilatus a ddyvot wrthaw, Pa beth yw gwirionedd? A’ gwedy iddaw ddywedyt hyn, ef aeth allan drachefyn at yr Iuddaeon, ac a ddyvot wrthwynt, Nyd wyf yn cahel vn bai arno.
39
Anid mae genych ddevot, vot i mi ellwng ychwy vn yn rhydd ar y Pasc. Velly a ewyllysiwch i mi ellwng i chwi yn rhydd Vrenhin yr Iuddaeon?
40
Yno y llefesont oll drachefyn, can ddywedyt, Nyd hwnn, amyn Barabas: a’r Barabbas hwnw oedd leitr.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21