bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
John 19
John 19
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
1
YNo y cymerth Pilatus yr Iesu ac ydd yscyrsiawdd ef.
2
A’r milwyr a blethesont coron o ddrain, ac ei gesodesont ar ei benn. Ac a roesont wisc burpur am danaw,
3
ac a ddywedesont, Henpych well, Vrenhin yr Iuddaeon. Ac wy y trawsant ef a ei gwiail.
4
Yno Pilatus aeth allan trachefyn, ac a ddyvot wrthwynt, Nycha, ydd wyf yn ei ddwyn ef allan ychwi, val y gwypoch, nad wyf yn cahel vn bei arnaw.
5
Yno y deuth yr Iesu allā yn arwain coron o drain, a gwisc purpur. Ac Pilatus a ddyvot wrthwynt, Nycha ’r dyn.
6
Yno yr Archoffeiriat ar twysogiō, pan welsāt ef, a lefāt cā ðywedyt, Croc, croc ef. Pilatus a y ðyvot wrthwynt, Cymerw‐chwi ef a’ chrogwch: can nad yw vi yn cael bai arnaw.
7
Yr Iuddaeon a atepesont yddaw, y mae i ni Ddeddyf ac erwydd ein Dedd y f ni, ef ddyly varw, can yddaw ei wneythyd ehun yn Vap Duw,
8
A’ phan glypu Pilatus yr ymadrodd hwnw, ef ofnoð yn vwy,
9
ac aeth drachefyn ir dadlaedy, ac a ðyvot wrth yr Iesu, Ob’le ith han yw ti? A’r Iesu ny roddes vn atep iddaw.
10
Yno y dyvot Pilatus wrthaw, A ny ddywedy di beth wrth y‐vi? A ny wyddost vot i mi veddiant ith groci, a’ bot i mi veddiant ith ellwng?
11
Yr Iesu a atepawdd, Ny byddei yty ddim meddiant yn v’erbyn, pe na’s roesit y‐ty oðucho d: can hyny yr hwn a’m rhodes yty, y sy vwy ei bechot.
12
Ac o hynny allan y caisiawdd Pilatus y ellwng ef: an’d yr Iuddaeon a lefent, gan ddywedyt, A’s gellyngy di hwn, nyd wyt ti gar i Caisar: can ys pwy bynac ei gwna ehun yn Vrenhin, ef a ddywait yn erbyn Caisar.
13
Pan glywodd Pilatus yr ymadrodd hyny, ef a dduc yr Iesu allan, ac a eisteddawdd ar yr orsedd fainc yn y lle a elwit y Palmaut, ac yn Hebreo Gabbatha.
14
Ac ydd oedd hi yn ddarpar y Pasch, ac yn‐cylch y chwechet awr, ac ef a ddyvot wrth yr Iuðeon, Nycha eich Brenhin.
15
Ac wy a lefent, Ymaith ac ef, ymaith ac ef, croc ef. Pilatus a a ddyvot wrthynt. A crocaf vi eich Brēhin? Yr Archoffeiriait atepesont, Nyd oes y ni Vrenhin odddiethr Caisar.
16
Yno ef y rhoes ef yddwynt, y’w groci. Ac wy gymersont yr Iesu, ac ei dusesont ymaith.
17
Ac ef a dduc ei groc, ac a ddeuth i le a elwit y Penglocva yr hwn a elwir yn Hebreo Golgotha:
18
lle cregesōt ef, a’ dau eraill gyd ac ef, vn o pop parth, a’r Iesu yn y cenawl.
19
Ac Pilatus a escrivenawdd titul ac ei gesodes ar y groc, ac yð oedd wedy’r escriveny IESV O NAZARET BRENHIN YR IVDDAEON.
20
A’r titul hwn a ddarlleawð llawer or Iuddaeon: can ys y lle y crogesit yr Iesu, oedd yn agos i’r dinas: ac ydd oedd yn yscrivenedic yn Hebreo, Groec, a’ Llatin.
21
Yno y dyvot yr Archoffeiriait yr Iuðaeon wrth Pilatus, Nag yscrivena, y Brēhin yr Iuðeon, eithr bot yðo ðywedyt, Brenhin yr Iuðeon ytwyf.
22
Pilatus a atepoð, yr hyn a escrivēnais, a yscrivenais.
23
Yno ’r milwyr wedy yð wynt grogi’r Iesu a gymersont ei ddillat ac ei gwnaethant yn bedair rhā, i bob milwr ran, ay bais ef: a’r bais oeð yn ddiwni at, wedy’r weheu o’r cwr uchaf trwyddhei.
24
Can hyny y dywedesont wrth ei gylydd, Na ranwn yhi anid bwriwn am danei, pwy bieuvydd. Hyn a vu er cyflawni yr Scrythur a ddywait, Ranesant vy‐gwist yn ei plith, ac ar vy‐pais y bwriesōt goelbrenni. Felly ’r milwyr a wnaeth hyn yn ddiau.
25
Yno y sefynt wrth groc yr Iesu ei vam, a’ ehwaer ei vam, Mair gvvraic Cleopas, a’ Mair Magdalen.
26
A’ phan weles yr Iesu ei vam, a’r discipul yn sefyll ger llaw y garei ef, y dyvot wrth ei vam, Wreic, wely dy vap.
27
Yno y dyvoc wrth y discipul Wele dy vam: ac or awr hono y cymerth y discipul y hi ato adref.
28
Ar ol hynny pan wybu yr Iesu vot pop beth wedy ’r ddybenny, er mwyn cyflawny ’r Scrythur, e ddyvot, Mae arnaf sychet.
29
Ac ydd oedd yno lestr wedy ’r ’osot yn llawn o vinegr: ac wy a lanwesont yspong o vinegr: ac ei roesynt ynghylch paladr hyssop, ac ei dodesont wrth ei enae.
30
A’ gwedy i’r Iesu gymeryd yr vynecr, y dyvot, Dibennwyt. Ac a ei ben ar ogwydd y rhoddes e yr yspryt.
31
Yr Iuddeon yno (can y bot yn Ddarpar, rac bot y cyrph yn aros ar y groc ar y dydd Sabbath: (can ys mawr oedd y Sabbath hwnw) a ddeisyfesont ar Pilatus gahel drylliaw y escairie hwy, a’ei tynnu i lawr.
32
Yno y daeth y milwyr, ac a ddrylliesont esceirie ’r cyntaf, ac ysceiriae ’r llall, yr hwn a grogesit gyd a’r Iesu.
33
An’d pan ddaethant at yr Iesu, a’ ei weled wedy marw eisioes, ny ddrylliesont y esceirie ef.
34
Eithyr vn o’r milwyr a gwaew a wanodd y ystlys ef, ac yn van ydaeth allan waed a dw f r.
35
A’r hwn a welawdd, a testolaethawdd, a’ gwir yw y destoliaeth ef: ac ef a wyr ei vot yn dywedyt gwir, val ac y credo chwi.
36
Can ys y pethe hyn a wnaethpwyt, val y cyflawnit yr Scrythur, Ny drillir ascwrn o hanaw.
37
A’ thrachefyn e ddywait Scrythur arall, Wy a welsant yr vn a wanasont trywoð.
38
Ac yn ol hyn, Ioseph o Arimathaia (yr hwn oedd ddiscipul yr Iesu, ’n amyn yn ddirgel rac ofn yr Iuddaeon) a archawdd ar Pilatus gahel tynny i lawr gorph yr Iesu. Ac Pilatus a ganiataodd yddaw. Yno y deuth ef ac y cymerth gorph yr Iesu.
39
Ac a ðeuth Nicodemus hefyt, (yr hwn yn gyntaf a ddeuthei at yr Iesu o hyd nos) ac a dduc gymysc or myrrh ac Aloes, yn‐cylch cant poys.
40
Yno y cymersont gorph yr Iesu, ac ei rhwymesont mewn llieniae a’r aroglae, megis y mae yr arver gan yr Iuddaeon ar gladdy.
41
Ac yn y van lle crogesit yr Iesu, ydd oedd gardd, ac yn yr ’ardd monwent newydd, yn yr hon ny ddodesit dyn erioet.
42
Ac yn y van hono y dodesont vvy ’r Iesu, o achos dydd Darpar yr Iuddaeon, can ys bot y vonwent yn agos.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21