bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Samuel 1
2 Samuel 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
1
Ar l marwolaeth Saul dychwelodd Dafydd o daro'r Amaleciaid, ac aros ddeuddydd yn Siclag.
2
Ar y trydydd dydd cyrhaeddodd dyn o wersyll Saul a'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Daeth at Ddafydd, syrthiodd o'i flaen a moesymgrymu.
3
Gofynnodd Dafydd iddo, "O ble y daethost?" Atebodd yntau, "Wedi dianc o wersyll Israel yr wyf."
4
Dywedodd Dafydd wrtho, "Dywed wrthyf sut y bu pethau." Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw.
5
Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, "Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?"
6
Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, "Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano.
7
Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. 'Dyma fi,' meddwn innau.
8
Gofynnodd i mi, 'Pwy wyt ti?' Atebais innau, 'Amaleciad.'
9
Yna dywedodd wrthyf, 'Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.'
10
Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum hwy yma at f'arglwydd."
11
Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd;
12
a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thu375? Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf.
13
Holodd Dafydd y llanc a ddaeth 'r newydd, "Un o ble wyt ti?" Atebodd yntau, "Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi."
14
Ac meddai Dafydd wrtho, "Sut na fyddai arnat ofn estyn dy law i ddistrywio eneiniog yr ARGLWYDD?"
15
Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, "Tyrd, rho ergyd iddo!" Trawodd yntau ef, a bu farw.
16
Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, "Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, 'Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD'."
17
Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan,
18
a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:
19
"O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau! O fel y cwympodd y cedyrn!
20
"Peidiwch 'i adrodd yn Gath, na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon, rhag i ferched y Philistiaid lawenhau, rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.
21
"O fynyddoedd Gilboa, na foed gwlith na glaw arnoch, chwi feysydd marwolaeth. Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn, tarian Saul heb ei hiro ag olew.
22
"Oddi wrth waed lladdedigion, oddi wrth fraster rhai cedyrn, ni throdd bwa Jonathan erioed yn l; a chleddyf Saul ni ddychwelai'n wag.
23
"Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wu375?r, yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy; cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.
24
"O ferched Israel, wylwch am Saul, a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad, ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.
25
"O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr! lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.
26
"Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan; buost yn annwyl iawn gennyf; yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol, y tu hwnt i gariad gwragedd.
27
"O fel y cwympodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!"
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24