bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Samuel 9
2 Samuel 9
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
1
Meddyliodd Dafydd, "Tybed a oes unrhyw un ar l o deulu Saul erbyn hyn, imi wneud caredigrwydd ag ef er mwyn Jonathan?"
2
Yr oedd gan deulu Saul was o'r enw Siba, a galwyd ef at Ddafydd. Gofynnodd y brenin iddo, "Ai Siba wyt ti?" Atebodd yntau, "Ie, dyma dy was."
3
Yna gofynnodd y brenin, "A oes unrhyw un ar l o deulu Saul imi wneud caredigrwydd ag ef yn enw Duw?" Atebodd Siba, "Oes, y mae mab i Jonathan sydd yn gloff yn ei draed."
4
Gofynnodd y brenin, "Ple mae ef?" A dywedodd Siba, "Y mae yn Lo-debar, yng nghartref Machir fab Ammiel."
5
Anfonodd y Brenin Dafydd a'i gyrchu o Lo-debar, o gartref Machir fab Ammiel.
6
Pan gyrhaeddodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul, syrthiodd ar ei wyneb o flaen Dafydd ac ymgreinio; gofynnodd Dafydd, "Meffiboseth?" ac atebodd yntau, "Ie, dyma dy was."
7
Dywedodd Dafydd wrtho, "Paid ag ofni, yr wyf wedi penderfynu gwneud caredigrwydd thi er mwyn Jonathan dy dad; yr wyf am roi'n l i ti holl dir dy daid Saul, ac fe gei di dy fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i."
8
Moesymgrymodd Meffiboseth a dweud, "Beth yw dy was, dy fod yn troi i edrych ar gi marw fel fi?"
9
Yna galwodd y brenin am Siba gwas Saul, a dweud wrtho, "Yr wyf yn rhoi i fab dy feistr bopeth oedd yn perthyn i Saul ac i unrhyw un o'i deulu.
10
Yr wyt ti i lafurio'r tir drosto ti, a'th blant, a'th weision a dod 'r cynnyrch yn fwyd i deulu dy feistr; ond caiff Meffiboseth, mab dy feistr, ei fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i." Yr oedd gan Siba bymtheg o feibion ac ugain gwas.
11
Dywedodd Siba wrth y brenin, "Fe wna dy was yn union fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn iddo." Bu Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd fel un o blant y brenin.
12
Yr oedd ganddo fab bach o'r enw Micha. Yr oedd pawb oedd yn byw yn nhu375? Siba yn weision i Meffiboseth.
13
Yr oedd Meffiboseth yn byw yn Jerwsalem am ei fod yn cael ei fwyd bob dydd wrth fwrdd y brenin. Yr oedd yn gloff yn ei ddeudroed.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24