bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Samuel 18
2 Samuel 18
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
Rhestrodd Dafydd y bobl oedd gydag ef, a phenodi capteiniaid ar filoedd a chapteiniaid ar gannoedd.
2
Yna rhannodd y fyddin yn dair, traean o dan Joab, traean dan Abisai fab Serfia, brawd Joab, a thraean dan Itai y Gethiad; a dywedodd y brenin wrth y fyddin, "Mi ddof finnau hefyd gyda chwi."
3
Ond atebasant, "Ni chei di ddod. Petaem ni yn ffoi am ein heinioes, ni fyddai neb yn meddwl dim o'r peth; a phetai ein hanner yn marw, ni fyddai neb yn malio amdanom; ond yr wyt ti cystal deng mil ohonom ni. Felly'n awr y mae'n well i ni dy fod yn aros i'n cynorthwyo o'r ddinas."
4
Dywedodd y brenin y gwni'r hyn a dybient hwy yn orau, a safodd yn ymyl y porth fel yr oedd y fyddin yn mynd allan yn ei channoedd a'i miloedd.
5
Gorch-mynnodd y brenin i Joab, Abisai ac Itai, "Er fy mwyn i byddwch yn dyner wrth y llanc Absalom." Yr oedd y fyddin i gyd yn clywed pan roes y brenin orchymyn i'r capteiniaid ynglu375?n ag Absalom.
6
Aeth y fyddin i'r maes i gyfarfod ag Israel, a digwyddodd y frwydr yng nghoetir Effraim.
7
Gorchfygwyd byddin Israel yno gan ddilynwyr Dafydd, a bu colledion mawr yno ugain mil o fewn y diwrnod hwnnw.
8
Lledodd yr ymladd dros y wlad i gyd, a difaodd y goedwig fwy o'r fyddin nag a wnaeth y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9
Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen.
10
Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen.
11
Ac meddai Joab wrth y dyn oedd wedi dweud wrtho, "Os gwelaist ti ef, pam na fu iti ei daro i lawr yn y fan? Fe fyddwn wedi gofalu am roi iti ddeg darn arian a gwregys."
12
Ond dywedodd y dyn wrth Joab, "Petawn i'n cael mil o ddarnau arian ar gledr fy llaw, ni feiddiwn estyn llaw yn erbyn mab y brenin; oherwydd fe glywsom 'n clustiau ein hunain pan roddodd y brenin orchymyn i ti ac i Abisai ac i Itai, a dweud, 'Cymerwch ofal, bawb, o'r llanc Absalom.'
13
Pe bawn i wedi troseddu yn erbyn ei einioes, ni fyddai modd cuddio dim rhag y brenin; a byddit tithau wedi sefyll o'r naill ochr."
14
Atebodd Joab, "Nid wyf am wastraffu amser fel hyn gyda thi." Cymerodd dair picell yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon, ac yntau'n dal yn fyw yng nghanol y dderwen.
15
Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd.
16
Ar hyn canodd Joab yr utgorn, a dychwelodd y fyddin o erlid yr Israeliaid am i Joab eu galw'n l.
17
Cymerwyd Absalom a'i fwrw i geubwll mawr oedd yn y goedwig, a chodi tomen enfawr o gerrig drosto. Ffodd yr Israeliaid i gyd adref.
18
Yn ystod ei fywyd yr oedd Absalom wedi cymryd colofn a'i gosod i sefyll yn Nyffryn y Brenin, "Oherwydd," meddai, "nid oes gennyf fab i gadw f'enw mewn cof." Galwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac fe'i gelwir hi'n Gofeb Absalom hyd heddiw.
19
Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, "Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion."
20
Ond dywedodd Joab wrtho, "Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd 'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw."
21
Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, "Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist." Moes-ymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.
22
Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, "Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar l yr Ethiopiad." Gofynnodd Joab, "Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges."
23
Ond plediodd, "Sut bynnag y bydd, gad imi fynd." Felly dywedodd wrtho, "Dos, ynteu." Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.
24
Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.
25
Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, "Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod neges."
26
Fel yr oedd yn dal i agosu, sylwodd y gwyliwr ar ddyn arall yn rhedeg, a galwodd i lawr at y porthor a dweud, "Dacw ddyn arall yn rhedeg ar ei ben ei hun." Dywedodd y brenin, "Negesydd yw hwn eto."
27
Yna dywedodd y gwyliwr, "Yr wyf yn gweld y cyntaf yn rhedeg yn debyg i Ahimaas fab Sadoc." Ac meddai'r brenin, "Dyn da yw hwnnw; daw ef newyddion da,"
28
Pan gyrhaeddodd Ahimaas, dywedodd wrth y brenin, "Heddwch!" Yna moesymgrymodd i'r brenin 'i wyneb i'r llawr, a dweud, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD dy Dduw, sydd wedi cau am y dynion a gododd yn erbyn f'arglwydd frenin."
29
Gofynnodd y brenin, "A yw'r llanc Absalom yn iawn?" Ac meddai Ahimaas, "Yr oedd dy was yn gweld cynnwrf mawr pan anfonodd Joab, gwas y brenin, fi i ffwrdd, ond ni wn beth oedd."
30
Dywedodd y brenin, "Saf yma o'r neilltu." Felly safodd o'r neilltu.
31
Yna cyrhaeddodd yr Ethiopiad a dweud, "Newydd da, f'arglwydd frenin! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi achub dy gam heddiw yn erbyn yr holl rai oedd yn codi yn dy erbyn."
32
Gofynnodd y brenin i'r Ethiopiad, "A yw'r llanc Absalom yn iawn?" Atebodd yr Ethiopiad, "Bydded i elynion f'arglwydd frenin a phawb sy'n codi yn d'erbyn er drwg, fod fel y llanc."
33
Cynhyrfodd y brenin, ac aeth i fyny i'r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, "O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!"
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24