bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Samuel 24
2 Samuel 24
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
1
Unwaith eto enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr Israeliaid, ac anogodd Ddafydd yn eu herbyn trwy ddweud, "Dos, cyfrifa'r Israeliaid a'r Jwdeaid."
2
Felly fe ddywedodd y brenin wrth Joab, a swyddogion y fyddin oedd gydag ef, "Dos drwy holl lwythau Israel o Dan i Beerseba a chyfrifa'r bobl, er mwyn imi wybod eu nifer."
3
Dywedodd Joab wrth y brenin, "Bydded i'r ARGLWYDD dy Dduw luosogi'r bobl ganwaith yr hyn ydynt, ac i tithau, f'arglwydd frenin, ei weld 'th lygaid dy hun; ond pam y mae f'arglwydd frenin 'i fryd ar wneud hyn?"
4
Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab a swyddogion y fyddin; felly fe aeth Joab a swyddogion y fyddin allan yn l gorchymyn y brenin i gyfrif pobl Israel.
5
Wedi croesi'r Iorddonen, dechreusant yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, yna aethant i Gad, ac ymlaen i Jaser.
6
Yna daethant i Gilead a gwlad yr Hethiaid, cyn belled Cades; ac i Dan a Jaan, a chwmpasu at Sidon.
7
Daethant wedyn at ddinas gaerog Tyrus, a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, a gorffen yn Negef Jwda, yn Beerseba.
8
Wedi iddynt deithio drwy'r wlad gyfan, daethant yn l i Jerwsalem ymhen naw mis ac ugain diwrnod.
9
Rhoddodd Joab swm cyfrifiad y bobl i'r brenin: yr oedd yn Israel wyth gan mil o wu375?r abl i drin cleddyf, ac yr oedd milwyr Jwda yn bum can mil.
10
Wedi iddo gyfrif y bobl, pigodd cydwybod Dafydd ef; a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny, O ARGLWYDD, maddau i'th was, oherwydd bm yn ffl iawn."
11
Wedi i Ddafydd godi fore trannoeth, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud,
12
"Dos a dywed wrth Ddafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti'."
13
Daeth Gad at Ddafydd a'i hysbysu a dweud wrtho, "A fynni di dair blynedd o newyn yn dy wlad, ynteu tri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr tra byddant yn dy erlid, ynteu tridiau o haint yn dy wlad? Ystyria ac edrych pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd."
14
Dywedodd Dafydd wrth Gad, "Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded inni syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i ddwylo pobl."
15
Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba.
16
Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, "Digon bellach! Atal dy law." Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
17
Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Myfi sydd wedi pechu, a myfi sydd wedi gwneud drwg; ond am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu."
18
Daeth Gad at Ddafydd y diwrnod hwnnw a dweud wrtho, "Dos, a chyfod allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad."
19
Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
20
Pan edrychodd Arafna a gweld y brenin a'i weision yn dod tuag ato, aeth allan a moesymgrymu i'r brenin 'i wyneb i'r llawr.
21
Ac meddai Arafna, "Pam y daeth f'arglwydd frenin at ei was?" Atebodd Dafydd, "I brynu gennyt y llawr dyrnu, i godi allor i'r ARGLWYDD er mwyn atal y pla sydd ar y bobl."
22
Yna dywedodd Arafna wrth Ddafydd, "Cymered f'arglwydd frenin ef ac offrymu'r hyn a fyn; edrych, dyma'r ychen ar gyfer y poethoffrwm, a'r sled ddyrnu ac iau'r ychen yn danwydd."
23
Rhoddodd Arafna'r cwbl i'r brenin, a dweud wrtho, "Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat."
24
Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, "Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost." Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian;
25
a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Der-byniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24