bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Samuel 15
2 Samuel 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Wedi hyn darparodd Absalom iddo'i hun gerbyd a meirch, a hanner cant o ddynion i redeg o'i flaen.
2
Codai'n fore, a sefyll ar ochr y ffordd at borth y ddinas, a phan fyddai unrhyw un yn dod ag achos at y brenin am ddedfryd, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn holi, "O ba dref yr wyt ti?" A byddai hwnnw'n ateb, "O un o lwythau Israel y mae dy was."
3
Yna byddai Absalom yn dweud, "Edrych, y mae dy achos yn un da a chryf, ond ni chei wrandawiad gan y brenin."
4
Ac ychwanegai Absalom, "O na fyddwn i yn cael fy ngosod yn farnwr dros y wlad! Yna byddai pob un chu373?yn neu achos ganddo yn dod ataf fi, a byddwn i yn sicrhau cyfiawnder iddo."
5
Pan fyddai unrhyw un yn agosu i ymgrymu iddo, byddai ef yn estyn ei law, yn gafael ynddo ac yn ei gusanu.
6
Fel hyn y byddai Absalom yn ymddwyn tuag at bob Israeliad oedd yn dod at y brenin am ddedfryd, a denodd fryd pobl Israel.
7
Wedi pedair blynedd dywedodd Absalom wrth y brenin, "Gad imi fynd i Hebron a thalu'r adduned a wneuthum i'r ARGLWYDD;
8
oherwydd pan oeddwn yn byw yn Gesur yn Syria, gwnaeth dy was yr adduned hon, 'Os byth y daw'r ARGLWYDD mi yn l i Jerwsalem, fe addolaf yr ARGLWYDD.'"
9
Dywedodd y brenin, "Dos mewn heddwch!" Aeth yntau i ffwrdd i Hebron.
10
Yr oedd Absalom wedi anfon negeswyr drwy holl lwythau Israel a dweud wrthynt, "Pan glywch sain yr utgorn, cyhoeddwch, 'Y mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron.'"
11
Aeth deucant o wu375?r gydag Absalom o Jerwsalem; yr oeddent wedi eu gwahodd, ac yn mynd yn gwbl ddiniwed, heb wybod dim byd.
12
Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau.
13
Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom,
14
a dywedodd Dafydd wrth ei holl weision oedd gydag ef yn Jerwsalem, "Codwch, inni gael ffoi; onid e, ni fydd modd inni ddianc rhag Absalom; brysiwch oddi yma rhag iddo ef ymosod yn sydyn arnom a pheri niwed inni, a tharo'r ddinas 'r cleddyf."
15
Dywedodd gweision y brenin wrtho, "Beth bynnag yw penderfyniad ein harglwydd frenin, y mae dy weision yn barod."
16
Yna ymadawodd y brenin, a'i deulu i gyd yn ei ganlyn, gan adael deg o'r gordderchwragedd i ofalu am y tu375?.
17
Wedi i'r brenin a'r holl fintai oedd yn ei ganlyn fynd allan, safodd ger y tu375? pellaf.
18
A safodd ei weision gerllaw iddo, tra oedd y Cerethiaid a'r Pelethiaid i gyd, a'r holl Gethiaid, sef y chwe chant o wu375?r oedd wedi dod o Gath i'w ganlyn, yn croesi gerbron y brenin.
19
Gofynnodd y brenin i Itai y Gethiad, "Pam yr wyt ti'n dod gyda ni? Dos yn l ac aros gyda'r brenin newydd, oherwydd dieithryn wyt ti, ac alltud oddi cartref.
20
Ddoe y daethost ti; a wnaf fi iti grwydro heddiw gyda ni ar daith, a minnau heb wybod i ble'r wyf yn mynd? Dos yn l, a dos 'th gymrodyr gyda thi; a bydded i'r ARGLWYDD ddangos iti drugaredd a ffyddlondeb."
21
Atebodd Itai a dweud wrth y brenin, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, f'arglwydd frenin, ple bynnag yr f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd."
22
Yna dywedodd Dafydd wrth Itai, "Dos ymlaen, ynteu." Felly aeth Itai y Gethiad yn ei flaen, a'i holl bobl a'r holl blant oedd gydag ef.
23
Yr oedd su373?n wylo mawr trwy'r holl wlad pan oedd y bobl yn croesi. Safodd y brenin wrth nant Cidron nes i'r bobl i gyd fynd drosodd i gyfeiriad yr anialwch.
24
Yr oedd Sadoc yno hefyd, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef yn cario arch cyfamod Duw. Wedi iddynt osod arch Duw i lawr, bu Abiathar yn offrymu nes i'r bobl i gyd ymadael 'r ddinas.
25
Yna dywedodd y brenin wrth Sadoc, "Dos ag arch Duw yn l i'r ddinas; os caf ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe ddaw mi yn l, a gadael imi ei gweld hi a'i chartref.
26
Ond os dywed fel hyn, 'Nid oes arnaf d'eisiau,' dyma fi; caiff wneud fel y myn mi."
27
Hefyd dywedodd y brenin wrth Sadoc yr offeiriad, "Edrych, fe elli di ac Abiathar ddychwelyd yn ddiogel i'r ddinas, a'ch dau fab gyda chwi, Ahimaas dy fab di a Jonathan, mab Abiathar.
28
Edrychwch, fe oedaf wrth rydau'r anialwch hyd nes y caf air oddi wrthych i'm hysbysu."
29
Felly dygodd Sadoc ac Abiathar arch Duw yn l i Jerwsalem, ac aros yno.
30
Dringodd Dafydd lethr Mynydd yr Olewydd dan wylo a chuddio'i ben a cherdded yn droednoeth. Yr oedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd yn dringo gan guddio'u pennau ac wylo.
31
Dywedwyd wrth Ddafydd fod Ahitoffel ymysg y cynllwynwyr gydag Absalom, a gweddodd Dafydd, "O ARGLWYDD, tro gyngor Ahitoffel yn ffolineb."
32
Pan gyrhaeddodd Dafydd y copa, lle byddid yn addoli Duw, dyma Husai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod 'i fantell wedi ei rhwygo a phridd ar ei ben.
33
Meddai Dafydd wrtho, "Os doi di gyda mi, byddi'n faich arnaf;
34
ond os ei di'n l i'r ddinas a dweud wrth Absalom, 'Dy was di wyf fi, f'arglwydd frenin; gwas dy dad oeddwn gynt, ond dy was di wyf yn awr', yna gelli ddrysu cyngor Ahitoffel drosof.
35
Bydd gennyt yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar gyda thi yno; yr wyt i ddweud wrthynt hwy bob gair a glywi o du375?'r brenin,
36
oherwydd y mae'r ddau fachgen, Ahimaas fab Sadoc a Jonathan fab Abiathar, yno gyda hwy, ac fe gewch anfon ataf trwyddynt hwy bob dim a glywch."
37
Daeth Husai, cyfaill Dafydd, i'r ddinas fel yr oedd Absalom yn cyrraedd Jerwsalem.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24