bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Samuel 11
2 Samuel 11
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
1
Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, fe anfonodd Dafydd Joab, gyda'i weision ei hun a byddin Israel gyfan, a distrywiasant yr Ammoniaid, a gosod Rabba dan warchae. Ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.
2
Un prynhawn yr oedd Dafydd wedi codi o'i wely ac yn cerdded ar do'r palas. Oddi yno gwelodd wraig yn ymolchi, a hithau'n un brydferth iawn.
3
Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, "Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?"
4
Anfonodd Dafydd negeswyr i'w dwyn ato, ac wedi iddi ddod, gorweddodd yntau gyda hi. Yr oedd hi wedi ei glanhau o'i haflendid. Yna dychwelodd hi adref.
5
Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog.
6
Anfonodd Dafydd at Joab, "Anfon ataf Ureia yr Hethiad."
7
Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel.
8
Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Dos i lawr adref a golchi dy draed." Pan adawodd Ureia du375?'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei l.
9
Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w du375? ei hun.
10
Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?"
11
Atebodd Ureia, "Y mae'r arch, ac Israel a Jwda hefyd, yn trigo mewn pebyll, ac y mae f'arglwydd Joab a gweision f'arglwydd yn gwersylla yn yr awyr agored. A wyf fi am fynd adref i fwyta ac yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, ni wnaf y fath beth!"
12
Dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Aros di yma heddiw eto, ac anfonaf di'n l yfory." Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw.
13
A thrannoeth gwahoddodd Dafydd ef i fwyta ac yfed gydag ef, a gwnaeth ef yn feddw. Pan aeth allan gyda'r nos, gorweddodd ar ei wely gyda gweision ei feistr, ac nid aeth adref.
14
Felly yn y bore ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a'i anfon gydag Ureia.
15
Ac yn y llythyr yr oedd wedi ysgrifennu, "Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae'r frwydr boethaf; yna ciliwch yn l oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw."
16
Pan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, gosododd Ureia yn y lle y gwyddai fod ymladdwyr dewr.
17
A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd.
18
Yna anfonodd Joab i hysbysu holl hanes y frwydr i Ddafydd.
19
Gorchmynnodd i'r negesydd, "Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin,
20
yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: 'Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur?
21
Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?' yna dywed tithau, 'Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw'."
22
Aeth y negesydd, a dod ac adrodd wrth Ddafydd y cwbl yr anfonodd Joab ef i'w ddweud.
23
Yna dywedodd y negesydd wrth Ddafydd, "Pan ymwrolodd y milwyr yn ein herbyn, a dod allan atom i'r maes agored, aethom ninnau yn eu herbyn hwy hyd at fynedfa'r porth,
24
a saethodd y saethwyr at dy weision oddi ar y mur, a bu farw rhai o weision y brenin, ac y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw."
25
Yna dywedodd Dafydd wrth y negesydd, "Dywed fel hyn wrth Joab, 'Paid gofidio am y peth hwn, oherwydd y mae'r cleddyf yn difa weithiau yma, weithiau acw; brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas a distrywia hi'. Calonoga ef fel hyn."
26
Pan glywodd gwraig Ureia fod ei gu373?r wedi marw, galarodd am ei phriod.
27
Ac wedi i'r cyfnod galaru fynd heibio, anfonodd Dafydd a'i chymryd i'w du375?, a daeth hi'n wraig iddo ef, a geni mab iddo. Ond yr oedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24