bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Samuel 7
2 Samuel 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
1
Wedi i'r brenin fynd i fyw i'w du375? ei hun, ac i'r ARGLWYDD roi llonyddwch iddo oddi wrth ei holl elynion o'i amgylch,
2
dywedodd y brenin wrth y proffwyd Nathan, "Edrych yn awr, yr wyf fi'n trigo mewn tu375? o gedrwydd, tra mae arch Duw yn aros mewn pabell."
3
Ac meddai Nathan wrth y brenin, "Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae'r ARGLWYDD gyda thi."
4
Ond y noson honno daeth gair yr ARGLWYDD at Nathan, gan ddweud,
5
"Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: A wyt ti am adeiladu i mi du375? i breswylio ynddo?
6
Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tu375? o'r diwrnod y dygais yr Israeliaid allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o le i le mewn pabell a thabernacl.
7
Ple bynnag y bm yn teithio gyda'r holl Israeliaid, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl Israel, a gofyn, "Pam na fyddech wedi adeiladu tu375? o gedrwydd i mi?"'
8
Felly, dywed fel hyn wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.
9
Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear.
10
Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt,
11
pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; rhoddaf iti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn dy hysbysu mai ef, yr ARGLWYDD, fydd yn gwneud tu375? i ti.
12
Pan ddaw dy ddyddiau i ben, a thithau'n gorwedd gyda'th hynafiaid, codaf blentyn iti ar dy l, un yn hanu ohonot, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn.
13
Ef fydd yn adeiladu tu375? i'm henw, a gwnaf innau orsedd ei deyrnas yn gadarn am byth.
14
Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi. Pan fydd yn troseddu, ceryddaf ef gwialen fel y gwna rhywun, ac chernodiau dynol,
15
ond ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth Saul pan symudais ef o'r ffordd o'th flaen.
16
Sicrheir dy deulu a'th deyrnas am byth o'm blaen; erys dy orsedd yn gadarn hyd byth.'"
17
Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef.
18
Yna aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, "Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod mi hyd yma?
19
Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Arglwydd DDUW, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglu375?n theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a gwneud hyn yn drefn dragwyddol, O Arglwydd DDUW.
20
Beth yn rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt, a thithau yn adnabod dy was, O Arglwydd DDUW?
21
Oherwydd dy addewid, ac yn l dy ewyllys, y gwnaethost yr holl fawredd hwn, a'i hysbysu i'th was.
22
Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahn i ti.
23
A phwy sydd fel dy bobl Israel, cenedl unigryw ar y ddaear? Aeth Duw ei hun i'w phrynu iddo'n bobl, ac i ennill bri iddo'i hun, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy er ei mwyn, trwy fwrw allan genhedloedd a'u duwiau o flaen dy bobl, y rhai a brynaist i ti dy hun o'r Aifft.
24
Sicrheaist ti dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.
25
Yn awr, O ARGLWYDD Dduw, cadarnha hyd byth yr addewid a wnaethost ynglu375?n 'th was a'i deulu, a gwna fel y dywedaist.
26
Yna, fe fawrheir dy enw hyd byth, a dywedir, 'ARGLWYDD y Lluoedd sydd Dduw ar Israel'; a bydd tu375? dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.
27
Am i ti, ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ddatgelu hyn i'th was a dweud, 'Adeiladaf i ti du375?', fe fentrodd dy was weddo fel hyn arnat.
28
Yn awr, O Arglwydd DDUW, ti sydd Dduw; y mae d'eiriau di yn wir, ac fe addewaist y daioni hwn i'th was.
29
Felly'n awr, gwl yn dda fendithio tu375? dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy u373?ydd; yn wir, yr wyt ti, O Arglwydd DDUW, wedi addo, a thrwy dy fendith di y bendithir tu375? dy was hyd byth."
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24