bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 1
Song of Solomon 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 2 →
1
Cân serch orau Solomon.
2
Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd! Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,
3
ac arogl dy bersawr mor hyfryd. Rwyt fel yr olew persawrus gorau — does dim syndod fod merched ifanc yn dy garu di.
4
Tyrd, cymer fi gyda ti; gad i ni frysio! Fy mrenin, dos â fi i dy ystafell wely. Gad i ni fwynhau a chael pleser; mae profi gwefr dy gyffyrddiad yn well na gwin. Mae'n ddigon teg fod merched ifanc yn dy garu di.
5
Ferched Jerwsalem, Mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd — yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar, a hardd fel llenni palas Solomon.
6
Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi. Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi, a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd; ond methais ofalu amdana i fy hun.
7
Fy nghariad, dywed wrtho i, Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid? Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd? Dywed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
8
O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod, dilyn olion traed y praidd a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.
9
F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf sy'n tynnu cerbydau'r Pharo.
10
Mae tlysau ar dy fochau hardd, a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.
11
Dw i am roi tlysau aur i ti, wedi eu haddurno ag arian.
12
Tra roedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely, roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr.
13
Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd yn gorwedd trwy'r nos rhwng fy mronnau.
14
Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna o winllannoedd ffrwythlon En-gedi.
15
O, rwyt mor hardd f'anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod.
16
O, rwyt mor olygus fy nghariad — ac mor hyfryd! Mae'r gwyrddni fel canopi o'n cwmpas yn gorchuddio'n gwely.
17
Mae canghennau'r coed cedrwydd fel trawstiau'n y to uwch ein pen; a'r coed pinwydd fel paneli.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8