bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 6
Song of Solomon 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 7 →
1
Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched? Ble'r aeth e? Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd.
2
Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd — i'w welyau o berlysiau. Mae wedi mynd i bori yn y gerddi, a chasglu'r lilïau.
3
Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad; mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
4
F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa, ac mor hyfryd â Jerwsalem. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!
5
Paid edrych arna i — mae dy lygaid yn fy aflonyddu! Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead.
6
Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll.
7
Tu ôl i'r fêl mae dy fochau a'u gwrid fel pomgranadau.
8
Gallwn gael chwe deg brenhines, wyth deg o bartneriaid, a merched ifanc di-rif!
9
Ond mae hi'n unigryw, fy ngholomen berffaith. Merch arbennig ei mam; hoff un yr un â'i cenhedlodd. Mae pob merch ifanc sy'n ei gweld yn ei hedmygu; Mae pob brenhines a chariad yn canu am ei harddwch:
10
“Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr? Pwy ydy hi? — mor hardd â'r lleuad llawn, mor bur â phelydrau'r haul. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”
11
Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau, i weld y tyfiant yn y dyffryn; i weld a oedd y winwydden wedi blaguro, a'r pomgranadau'n blodeuo.
12
Roeddwn wedi cynhyrfu'n lân. Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi, o ferch fy mhobl fonheddig.
13
Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith! Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti. Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith, fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8