bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 2
Song of Solomon 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 3 →
1
Un blodyn saffrwn ar wastatir Saron ydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn.
2
F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraill rwyt ti fel lili yng nghanol mieri.
3
Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraill rwyt ti fel coeden afalau yng nghanol y goedwig. Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod, ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys.
4
Aeth â fi i mewn i'r gwindy a'm gorchuddio â'i gariad.
5
Helpwch fi! Adfywiwch fi gyda ffrwythau melys ac afalau — dw i'n glaf o gariad.
6
Mae ei law chwith dan fy mhen, a'i law dde yn fy anwesu.
7
Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch o flaen y gasél a'r ewig gwyllt: Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiol nes mae'n barod.
8
Ust! Fy nghariad sydd yna! Edrychwch! Dyma fe'n dod, yn llamu dros y mynyddoedd ac yn neidio dros y bryniau
9
fel gasél neu garw ifanc. Mae yma! Yr ochr arall i'r wal! Mae'n edrych drwy'r ffenest ac yn sbecian drwy'r ddellt.
10
Mae'n galw arna i: “F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd.
11
Edrych! Mae'r gaeaf drosodd; mae'r glaw trwm wedi hen fynd.
12
Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman, y tymor pan mae'r cread yn canu a cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.
13
Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedu a'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd. F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd.”
14
Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraedd o'r golwg yn holltau'r graig a'r ogofâu ar y clogwyni! Gad i mi dy weld a chlywed dy lais; mae sŵn dy lais mor swynol, a'th olwg mor ddeniadol.
15
Daliwch lwynogod; y llwynogod bach sydd am ddifetha gwinllannoedd — a'n gwinllannoedd yn blodeuo.
16
Fi piau nghariad, a fe piau fi; mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
17
Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu — bydd fel gasél neu garw ifanc yn croesi'r hafnau rhwng y bryniau creigiog.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8