bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 3
Song of Solomon 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 4 →
1
Wrth orwedd ar fy ngwely'n y nos byddai gen i hiraeth am fy nghariad; dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
2
“Dw i'n mynd i godi i edrych amdano'n y dre — crwydro'r strydoedd a'r sgwariau yn chwilio am fy nghariad.” Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
3
Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?”
4
Prin roeddwn wedi eu pasio pan ddes i o hyd i'm cariad! Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwng nes mynd ag e i dŷ fy mam, i'w hystafell wely.
5
Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch o flaen y gasél a'r ewig gwyllt: Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiol nes mae'n barod.
6
Beth sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch, yn codi llwch fel colofnau o fwg? Fel mwg yr arogldarth yn codi o'r allor — myrr a thus a phob powdr persawrus sydd ar werth gan fasnachwyr teithiol.
7
Edrychwch! Soffa-gludo Solomon ydy hi! Mae chwe deg o filwyr o'i gwmpas — arwyr dewr Israel.
8
Mae gan bob un ei gleddyf yn barod, ac maen nhw wedi eu hyfforddi i ryfela. Mae cleddyf pob un ar ei glun i'w amddiffyn rhag peryglon y nos.
9
Mae gan Solomon gadair gludo wedi ei gwneud o goed o Libanus.
10
Mae ei pholion o arian a'i ffrâm o aur; ei sedd o ddefnydd porffor a'r tu mewn wedi ei addurno â chariad.
11
Ferched Jerwsalem, dewch allan! Dewch ferched Seion i syllu ar Solomon yn gwisgo'r goron gafodd gan ei fam ar ddiwrnod ei briodas — diwrnod hapusaf ei fywyd!
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8