bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 5
Song of Solomon 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 6 →
1
Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad — i gasglu fy myrr a'm perlysiau, i flasu y diliau a'r mêl, ac i yfed y gwin a'r llaeth. Mwynhewch y wledd gariadon! Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!
2
Roeddwn yn gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro. Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo — “Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd, fy nghariad, fy ngholomen berffaith. Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith, a'm pen yn llaith gan niwl y nos.”
3
“Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i. Ti am i mi wisgo eto wyt ti? A dw i wedi golchi fy nhraed. Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”
4
Yna gwthiodd ei law i agor y drws, a teimlais wefr yn mynd trwyddo i.
5
Codais i'w adael i mewn; roedd fy nwylo'n diferu o fyrr — roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd pan afaelais yn yr handlen.
6
Agorais y drws i'm cariad, ond roedd e wedi troi a mynd! Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth. Chwiliais amdano, ond methu ei gael; Gelwais arno, ond doedd dim ateb.
7
Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Dyma nhw'n fy nghuro a'm cam-drin, a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i — y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau'r ddinas!
8
Ferched Jerwsalem, gwrandwch — Os dewch chi o hyd i'm cariad, dwedwch wrtho mod i'n glaf o gariad.
9
O'r harddaf o ferched, beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill? Beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill, i ti grefu mor daer â hyn?
10
Mae nghariad yn ffit ac yn iach; mae'n sefyll allan yng nghanol y dyrfa.
11
Mae ei wyneb a'i wedd fel aur pur, a'i wallt cyrliog yn ddu fel y frân.
12
Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr, yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle.
13
Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau, a chusan ei wefusau fel y lili yn diferu o fyrr.
14
Mae ei freichiau cyhyrog fel aur wedi eu haddurno â meini gwerthfawr. A'i gorff lluniaidd fel ifori llyfn wedi ei orchuddio â meini saffir.
15
Mae ei goesau fel pileri o farmor wedi eu gosod ar sylfaen o aur pur. Mae e'n sefyll fel mynyddoedd Libanus a'u coed cedrwydd urddasol.
16
Mae ei gusan mor felys; mae popeth amdano'n ddeniadol! Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar, ferched Jerwsalem.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8