bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 4
Song of Solomon 4
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 5 →
1
O, rwyt mor hardd f'anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod y tu ôl i'r fêl. Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead.
2
Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a'u golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll.
3
Mae dy wefusau fel edau goch, a'th geg mor siapus. Tu ôl i'r fêl mae dy fochau a'u gwrid fel pomgranadau.
4
Mae dy wddf fel tŵr Dafydd a'r rhesi o gerrig o'i gwmpas; mil o darianau yn hongian arno, fel arfau milwyr arwrol.
5
Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid yn pori ymysg y lilïau.
6
Rhaid i mi fynd a dringo mynydd myrr a bryn thus, ac aros yno hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu.
7
Mae popeth amdanat mor hardd f'anwylyd! Ti'n berffaith!
8
Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad, tyrd gyda mi o fryniau Libanus. Tyrd i lawr o gopa Amana, o ben Senir, sef copa Hermon; Tyrd i lawr o ffeuau'r llewod a lloches y llewpard.
9
Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad. Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad, un em yn dy gadwyn.
10
Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad. Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin, ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau.
11
Mae dy gusan yn felys fy nghariad, yn diferu fel diliau mêl. Mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus.
12
Fy merch annwyl, fy nghariad — rwyt fel gardd breifat dan glo; yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni.
13
Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau, yn llawn o'r ffrwyth gorau. Gardd bersawrus hudolus o henna hyfryd,
14
nard a saffrwn, sbeisiau pêr a sinamon thus o wahanol fathau, myrr ac aloes — pob un o'r perlysiau drutaf.
15
Ti ydy'r ffynnon yn yr ardd — ffynnon o ddŵr glân gloyw yn llifo i lawr bryniau Libanus.
16
Deffra, wynt y gogledd; tyrd, wynt y de! Chwytha ar fy ngardd i ledu sawr ei pherlysiau. Tyrd i mewn i dy ardd fy nghariad, a gwledda ar ei ffrwyth gorau.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8