bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 8
Song of Solomon 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
1
O na fyddet ti fel brawd bach i mi, wedi ei fagu ar fron fy mam; byddwn yn dy gusanu di'n agored, a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i.
2
Af â ti i dŷ fy mam, yr un ddysgodd bopeth i mi. Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau; gwin melys fy mhomgranadau.
3
Mae ei law chwith dan fy mhen, a'i law dde yn fy anwesu.
4
Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch: Pam trïo cyffroi cariad rhywiol cyn ei fod yn barod?
5
Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch yn pwyso ar fraich ei chariad? Cynhyrfais di dan y goeden afalau. Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu, a dyna ble gest ti dy eni.
6
Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl-fodrwy ar dy law. Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth, ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd. Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt, fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.
7
All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad; all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd. Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano, byddai'n ddim byd ond testun sbort.
8
Mae gynnon ni chwaer fach a'i bronnau heb dyfu. Beth wnawn ni i'w helpu pan gaiff ei haddo i'w phriodi?
9
Os ydy hi'n saff fel wal, gallwn ei haddurno gyda thyrau arian! Os ydy hi fel drws, gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!
10
Roeddwn i fel wal, ond bellach mae fy mronnau fel tyrau, felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e.
11
Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon, a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid. Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
12
Mae'r mil o ddarnau arian i ti Solomon, a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth; ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig.
13
Ti sy'n aros yn y gerddi, mae yna ffrindiau'n gwrando am dy lais; ond gad i mi fod yr un sy'n ei glywed.
14
Brysia, fy nghariad! — bydd fel gasél neu garw ifanc ar fynyddoedd y perlysiau.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8