bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Song of Solomon 7
Song of Solomon 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 8 →
1
Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd, o ferch fonheddig. Mae dy gluniau mor siapus — fel gemwaith gan grefftwr medrus.
2
Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron yn llawn o'r gwin cymysg gorau. Mae dy fol fel pentwr o wenith a chylch o lilïau o'i gwmpas.
3
Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid.
4
Mae dy wddf fel tŵr o ifori, a'th lygaid fel llynnoedd Cheshbon ger mynedfa Bath-rabbîm. Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus sy'n wynebu dinas Damascus.
5
Ti'n dal dy ben yn uchel fel Mynydd Carmel ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.
6
O! rwyt mor hardd! Mor hyfryd! Ti'n fy hudo, fy nghariad!
7
Ti'n dal fel coeden balmwydd, a'th fronnau'n llawn fel ei sypiau o ddatys.
8
Dw i am ddod a dringo'r goeden a gafael yn ei ffrwythau. Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin, a'u sawr yn felys fel afalau.
9
Mae dy gusanau fel y gwin gorau yn llifo'n rhydd ar fy ngwefusau wrth i ni fynd i gysgu.
10
Fy nghariad piau fi, ac mae f'eisiau.
11
Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i'r caeau; gad i ni dreulio'r nos rhwng y blodau henna.
12
Gad i ni godi'n gynnar a mynd lawr i'r gwinllannoedd, i weld os ydy'r winwydden wedi blaguro a'u blodau wedi agor; ac i weld os ydy'r pomgranadau'n blodeuo — yno gwnaf roi fy hun i ti.
13
Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau yn llenwi'r awyr, a danteithion pleser wrth ein drysau — y cwbl dw i wedi ei gadw i'w rannu gyda ti fy nghariad.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8