bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 12
Hosea 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 13 →
1
Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â'r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i'r Aifft.
2
Ac y mae gan yr ARGLWYDD gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.
3
Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda DUW.
4
Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;
5
Sef ARGLWYDD DDUW y lluoedd: yr ARGLWYDD yw ei goffadwriaeth.
6
Tro dithau at dy DDUW; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy DDUW bob amser.
7
Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.
8
A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.
9
A mi, yr hwn yw yr ARGLWYDD dy DDUW a'th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl.
10
Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.
11
A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.
12
Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid.
13
A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef.
14
Effraim a'i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe ei waed ef arno, a'i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14