bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 6
Hosea 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
1
Deuwch, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a'n drylliodd, ac efe a'n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a'n meddyginiaetha ni.
2
Efe a'n bywha ni ar ôl deuddydd, a'r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef.
3
Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a'r cynnar law i'r ddaear.
4
Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol.
5
Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a'th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan.
6
Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o DDUW, yn fwy na phoethoffrymau.
7
A'r rhai hyn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i'm herbyn.
8
Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed.
9
Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder.
10
Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel.
11
Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14