bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 7
Hosea 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
1
A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a'r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.
2
Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a'u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.
3
Llawenhânt y brenin â'u drygioni, a'r tywysogion â'u celwyddau.
4
Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.
5
Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a'i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.
6
Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.
7
Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi.
8
Effraim a ymgymysgodd â'r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi.
9
Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd‐ddo, ac nis gwybu efe.
10
Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr ARGLWYDD eu DUW, ac nis ceisiant ef.
11
Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.
12
Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu eu cynulleidfa hwynt.
13
Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: dinistr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i'm herbyn: er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi.
14
Ac ni lefasant arnaf â'u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.
15
Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi.
16
Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14