bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 9
Hosea 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 10 →
1
Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy DDUW, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.
2
Y llawr dyrnu na'r gwinwryf nis portha hwynt, a'r gwin newydd a'i twylla hi.
3
Ni thrigant yng ngwlad yr ARGLWYDD; ond Effraim a ddychwel i'r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan.
4
Nid offrymant win i'r ARGLWYDD, a'u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr ARGLWYDD.
5
Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr ARGLWYDD?
6
Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a'u casgl hwynt, Memffis a'u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.
7
Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu'r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a'r cas mawr.
8
Gwyliedydd Effraim a fu gyda'm DUW; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei DDUW.
9
Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â'u pechod.
10
Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal‐peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant.
11
Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o'r enedigaeth, o'r groth, ac o'r beichiogi.
12
Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt!
13
Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad.
14
Dyro iddynt, ARGLWYDD: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion.
15
Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o'm tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar.
16
Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau.
17
Fy NUW a'u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14