bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 5
Hosea 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
1
Clywch hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor.
2
Y rhai a wyrant i ladd a ânt i'r dwfn, er i mi eu ceryddu hwynt oll.
3
Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd.
4
Ni roddant eu gwaith ar droi at eu DUW; am fod ysbryd godineb o'u mewn, ac nid adnabuant yr ARGLWYDD.
5
A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt.
6
A'u defaid ac â'u gwartheg y deuant i geisio yr ARGLWYDD; ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt.
7
Yn erbyn yr ARGLWYDD y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: mis bellach a'u difa hwynt ynghyd â'u rhannau.
8
Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth‐afen ar dy ôl di, Benjamin.
9
Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr.
10
Bu dywysogion Jwda fel symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr.
11
Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn.
12
Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel pydredd i dŷ Jwda.
13
Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na'ch iacháu o'ch archoll.
14
Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.
15
Af a dychwelaf i'm lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y'm boregeisiant.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14