bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 14
Hosea 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
1
Ymchwel, Israel, at yr ARGLWYDD dy DDUW; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd.
2
Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau.
3
Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.
4
Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho.
5
Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus.
6
Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Libanus.
7
Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus.
8
Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di.
9
Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a'i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr ARGLWYDD, a'r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14