bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 4
Hosea 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 5 →
1
Meibion Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad.
2
Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.
3
Am hynny y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.
4
Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â'r offeiriad.
5
Am hynny ti a syrthi y dydd, a'r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.
6
Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a'th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy DDUW, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.
7
Fel yr amlhasant, felly y pechasant i'm herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.
8
Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.
9
A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.
10
Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
11
Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.
12
Fy mhobl a ofynnant gyngor i'w cyffion, a'u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a'u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu DUW.
13
Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth, dan y dderwen, a'r boplysen, a'r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a'ch gwragedd a dorrant briodas.
14
Nid ymwelaf â'ch merched pan buteiniont, nac â'ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a'r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.
15
Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth‐afen; ac na thyngwch, Byw yw yr ARGLWYDD.
16
Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr ARGLWYDD yr awr hon a'u portha hwynt fel oen mewn ehangder.
17
Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo.
18
Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi.
19
Y gwynt a'i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14