bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hosea 8
Hosea 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
1
At dy safn â'r utgorn. Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr ARGLWYDD, am iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.
2
Israel a lefant arnaf, Fy NUW, nyni a'th adwaenom di.
3
Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a'i herlid yntau.
4
Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o'u harian a'u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.
5
Samaria, dy lo a'th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i'w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?
6
Canys o Israel y mae; y saer a'i gwnaeth; am hynny nid yw efe DDUW: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.
7
Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a'i llwnc.
8
Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.
9
Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.
10
Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a'u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion.
11
Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu.
12
Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd.
13
Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytânt; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i'r Aifft.
14
Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i'w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14