bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 12
Judges 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
1
A Gwŷr Effraim a ymgasglasant, ac a sethant tua'r gogledd, ac a ddywedasant wrth Jefftha, Paham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon, ac na elwaist arnom ni i fyned gyda thi? dy dŷ di a losgwn ni am dy ben â thân.
2
A Jefftha a ddywedodd wrthynt hwy, Myfi a'm pobl oeddem yn ymryson yn dost yn erbyn meibion Ammon; a mi a'ch gelwais chwi, ond ni waredasoch fi o'u llaw hwynt.
3
A phan welais i nad oeddech yn fy achub, mi a osodais fy einioes yn fy llaw, ac a euthum yn erbyn meibion Ammon; a'r ARGLWYDD a'u rhoddodd hwynt yn fy llaw i: paham gan hynny y daethoch i fyny ataf fi y dydd hwn, i ymladd i'm herbyn?
4
Yna Jefftha a gasglodd ynghyd holl wŷr Gilead, ac a ymladdodd ag Effraim: a gwŷr Gilead a drawsant Effraim, am ddywedyd ohonynt hwy, Ffoaduriaid Effraim ymysg yr Effraimiaid, ac ymysg Manasse, ydych chwi y Gileadiaid.
5
A'r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid: a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasent, Gedwch i mi fyned drwodd: yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho, Ai Effraimiaid ydwyt ti? Os dywedai yntau, Nage;
6
Yna y dywedent wrtho, Dywed yn awr, Shibboleth. Dywedai yntau, Sibboleth; canys ni fedrai efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrth rydau yr Iorddonen. A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil a deugain.
7
A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd. Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad, ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead.
8
Ac ar ei ôl ef, Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel.
9
Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain, a deng merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng merch ar hugain a ddug efe i'w feibion oddi allan. Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd.
10
Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem.
11
Ac ar ei ôl ef, Elon y Sabuloniad a farnodd Israel: ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd.
12
Ac Elon y Sabuloniad a fu farw, ac a gladdwyd yn Ajalon, yng ngwlad Sabulon.
13
Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef.
14
Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion, a deg ar hugain o wyrion, yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd.
15
Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw: ac a gladdwyd yn Pirathon, yng ngwlad Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
Recommended Reading
Commentary
Judges Commentaries
→
Devotional
Judges Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→