bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 15
Judges 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
1
Ac wedi talm o ddyddiau, yn amser cynhaeaf y gwenith, Samson a aeth i ymweled â'i wraig â myn gafr; ac a ddywedodd, Mi a af i mewn at fy ngwraig i'r ystafell. Ond ni chaniatâi ei thad hi iddo ef fyned i mewn.
2
A'i thad a lefarodd, gan ddywedyd, Tybiaswn i ti ei chasáu hi; am hynny y rhoddais hi i'th gyfaill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi? bydded honno i ti, atolwg, yn ei lle hi.
3
A Samson a ddywedodd wrthynt, Difeiach ydwyf y waith hon na'r Philistiaid, er i mi wneuthur niwed iddynt.
4
A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod; ac a gymerth ffaglau, ac a drodd gynffon at gynffon, ac a osododd un ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol.
5
Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau, ac a'u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn oed y dasau, a'r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a'r olewydd.
6
Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth hyn? Hwythau a ddywedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a'i rhoddi i'w gyfaill ef. A'r Philistiaid a aethant i fyny, ac a'i llosgasant hi a'i thad â thân.
7
A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, eto mi a ymddialaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf.
8
Ac efe a'u trawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghopa craig Etam.
9
Yna y Philistiaid a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Jwda, ac a ymdaenasant yn Lehi.
10
A gwŷr Jwda a ddywedasant, Paham y daethoch i fyny i'n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y daethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau.
11
Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.
12
Dywedasant hwythau wrtho, I'th rwymo di y daethom i waered, ac i'th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain.
13
Hwythau a'i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y'th rwymwn di, ac y'th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni'th laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a'i dygasant ef i fyny o'r graig.
14
A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef; a'r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a'r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef.
15
Ac efe a gafodd ên asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr.
16
A Samson a ddywedodd, A gên asyn, pentwr ar bentwr; â gên asyn y lleddais fil o wŷr.
17
A phan orffennodd efe lefaru, yna efe a daflodd yr ên o'i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramath‐lehi.
18
Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig?
19
Ond DUW a holltodd y cilddant oedd yn yr ên, fel y daeth allan ddwfr ohono; ac efe a yfodd, a'i ysbryd a ddychwelodd, ac efe a adfywiodd: am hynny y galwodd efe ei henw En‐haccore, yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn.
20
Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21