bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 20
Judges 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
1
Yna holl feibion Israel a aethant allan; a'r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o Dan hyd Beerseba, a gwlad Gilead, at yr ARGLWYDD, i Mispa.
2
A phenaethiaid yr holl bobl, o holl lwythau Israel, a safasant yng nghynulleidfa pobl DDUW; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf.
3
(A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn?
4
A'r gŵr y Lefiad, gŵr y wraig a laddesid, a atebodd ac a ddywedodd, I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i, mi a'm gordderch, i letya.
5
A gwŷr Gibea a gyfodasant i'm herbyn, ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw.
6
A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a'i derniais hi, ac a'i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd‐dra ac ynfydrwydd yn Israel.
7
Wele, meibion Israel ydych chwi oll; moeswch rhyngoch air a chyngor yma.
8
A'r holl bobl a gyfododd megis un gŵr, gan ddywedyd, Nac eled neb ohonom i'w babell, ac na throed neb ohonom i'w dŷ.
9
Ond yn awr, hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea: Nyni a awn i fyny i'w herbyn wrth goelbren;
10
A ni a gymerwn ddengwr o'r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o'r mil, a mil o'r deng mil, i ddwyn lluniaeth i'r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibea Benjamin, yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnaethant hwy yn Israel.
11
Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytûn fel un gŵr.
12
A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi?
13
Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meibion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel:
14
Eithr meibion Benjamin a ymgynullasant o'r dinasoedd i Gibea, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel.
15
A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o'r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig.
16
O'r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob un ohonynt a ergydiai â charreg at y blewyn, heb fethu.
17
Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heblaw Benjamin, yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf; pawb ohonynt yn rhyfelwyr.
18
A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ DDUW, ac a ymgyngorasant â DUW, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i'r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â yn gyntaf.
19
A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea.
20
A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i'w herbyn hwy wrth Gibea.
21
A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr.
22
A'r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.
23
(A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr ARGLWYDD, Dos i fyny yn ei erbyn ef.)
24
A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd.
25
A Benjamin a aeth allan o Gibea i'w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.
26
Yna holl feibion Israel a'r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ DDUW, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD.
27
A meibion Israel a ymgyngorasant â'r ARGLWYDD, (canys yno yr oedd arch cyfamod DUW yn y dyddiau hynny;
28
A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr ARGLWYDD, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di.
29
Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea.
30
A meibion Israel a aethant i fyny yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt.
31
A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o'r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o'r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ DDUW, a'r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.
32
A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o'n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i'r priffyrdd.
33
A holl wŷr Israel a gyfodasant o'u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a'r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o'u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.
34
A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a'r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt.
35
A'r ARGLWYDD a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o'r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum mil ar hugain a channwr; a'r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.
36
Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i'r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea.
37
A'r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a'r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.
38
Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a'r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o'r ddinas.
39
A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o'n blaen ni, fel yn y cyntaf.
40
A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o'r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i'r nefoedd.
41
Yna gwŷr Israel a droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt.
42
Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a'r gad a'u goddiweddodd hwynt: a'r rhai a ddaethai o'r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.
43
Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul.
44
A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol.
45
A hwy a droesant, ac a ffoesant tua'r anialwch i graig Rimmon. A'r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bum mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr.
46
A'r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol.
47
Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i'r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis.
48
A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a'u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a'r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
Recommended Reading
Commentary
Judges Commentaries
→
Devotional
Judges Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→