bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 8
Judges 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
1
A gwŷr Effraim a ddywedasant wrtho ef, Paham y gwnaethost y peth hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid? A hwy a'i dwrdiasant ef yn dost.
2
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Effraim, na chasgliad grawnwin Abieser?
3
DUW a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian, Oreb a Seeb: a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef, pan lefarodd efe y gair hwn.
4
A daeth Gedeon i'r Iorddonen; ac a aeth drosti hi, efe a'r tri channwr oedd gydag ef, yn ddiffygiol, ac eto yn eu herlid hwy.
5
Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, atolwg, dorthau o fara i'r bobl sydd i'm canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.
6
A dywedodd tywysogion Succoth, A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i'th lu di?
7
A dywedodd Gedeon, Oherwydd hynny, pan roddo yr ARGLWYDD Seba a Salmunna yn fy llaw i, yna y drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch, ac â mieri.
8
Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd. A gwŷr Penuel a'i hatebasant ef fel yr atebasai gwŷr Succoth.
9
Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel, gan ddywedyd, Pan ddychwelwyf mewn heddwch, mi a ddistrywiaf y tŵr yma.
10
A Seba a Salmunna oedd yn Carcor, a'u lluoedd gyda hwynt, ynghylch pymtheng mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf.
11
A Gedeon a aeth i fyny ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha: ac efe a drawodd y fyddin: canys y fyddin oedd ysgafala.
12
A Seba a Salmunna a ffoesant: ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt; ac a ddaliodd ddau frenin Midian, Seba a Salmunna, ac a darfodd yr holl lu.
13
A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o'r rhyfel cyn codi yr haul.
14
Ac efe a ddaliodd lanc o wŷr Succoth, ac a ymofynnodd ag ef. Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Succoth, a'r henuriaid; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain.
15
Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth, ac a ddywedodd, Wele Seba a Salmunna, trwy y rhai y danodasoch i mi, gan ddywedyd, A ydyw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem fara i'th wŷr lluddedig?
16
Ac efe a gymerth henuriaid y ddinas, a drain yr anialwch, a mieri, ac a ddysgodd wŷr Succoth â hwynt.
17
Tŵr Penuel hefyd a ddinistriodd efe, ac a laddodd wŷr y ddinas.
18
Yna efe a ddywedodd wrth Seba a Salmunna, Pa fath wŷr oedd y rhai a laddasoch chwi yn Tabor? A hwy a ddywedasant, Tebyg i ti, pob un o ddull meibion brenin.
19
Ac efe a ddywedodd, Fy mrodyr, meibion fy mam, oeddynt hwy: fel mai byw yr ARGLWYDD, pe gadawsech hwynt yn fyw, ni laddwn chwi.
20
Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyntaf‐anedig, Cyfod, lladd hwynt. Ond ni thynnai y llanc ei gleddyf: oherwydd efe a ofnodd, canys bachgen oedd efe eto.
21
Yna y dywedodd Seba a Salmunna, Cyfod di, a rhuthra i ni: canys fel y byddo y gŵr, felly y bydd ei rym. A Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Seba a Salmunna, ac a gymerth y colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt.
22
A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon, Arglwyddiaetha arnom ni, tydi, a'th fab, a mab dy fab hefyd: canys gwaredaist ni o law Midian.
23
A Gedeon a ddywedodd wrthynt, Ni arglwyddiaethaf fi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch, eithr yr ARGLWYDD a arglwyddiaetha arnoch.
24
Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, Gofynnaf ddymuniad gennych, ar roddi o bob un ohonoch i mi glustlysau ei ysglyfaeth: canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy, oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy.
25
A dywedasant, Gan roddi y rhoddwn hwynt. A lledasant ryw wisg, a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaeth.
26
A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe, oedd fil a saith gant o siclau aur; heblaw y colerau, a'r arogl‐bellennau, a'r gwisgoedd porffor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt.
27
A Gedeon a wnaeth ohonynt effod, ac a'i gosododd yn ei ddinas ei hun, Offra: a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac i'w dŷ.
28
Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon.
29
A Jerwbbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dŷ ei hun.
30
Ac i Gedeon yr oedd deng mab a thrigain, a ddaethai o'i gorff ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef.
31
A'i ordderchwraig ef, yr hon oedd yn Sichem, a ymddûg hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.
32
Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid.
33
A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelasant, ac a buteiniasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt.
34
Felly meibion Israel ni chofiasant yr ARGLWYDD eu DUW, yr hwn a'u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch;
35
Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerwbbaal, sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21