bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 21
Judges 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
1
A Gwŷr Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni ddyry neb ohonom ei ferch i Benjaminiad yn wraig.
2
A daeth y bobl i dŷ DDUW, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gerbron DUW, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant ag wylofain mawr:
3
Ac a ddywedasant, O ARGLWYDD DDUW Israel, paham y bu y peth hyn yn Israel, fel y byddai heddiw un llwyth yn eisiau yn Israel?
4
A thrannoeth y bobl a foregodasant, ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd.
5
A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda'r gynulleidfa at yr ARGLWYDD? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau.
6
A meibion Israel a edifarhasant oherwydd Benjamin eu brawd: a dywedasant, Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel:
7
Beth a wnawn ni am wragedd i'r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i'r ARGLWYDD, na roddem iddynt yr un o'n merched ni yn wragedd?
8
Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i'r gwersyll, at y gynulleidfa.
9
Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead.
10
A'r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a'r plant.
11
Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwryw, a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr.
12
A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i'r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan.
13
A'r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt.
14
A'r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.
15
A'r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, oherwydd i'r ARGLWYDD wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.
16
Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i'r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin?
17
Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i'r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel.
18
Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o'n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin.
19
Yna y dywedasant, Wele, y mae gŵyl i'r ARGLWYDD bob blwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i'r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus.
20
Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd:
21
Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o'r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin.
22
A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog.
23
A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o'r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i'w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt.
24
A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw, bob un at ei lwyth, ac at ei deulu; ac a aethant oddi yno bob un i'w etifeddiaeth.
25
Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
Recommended Reading
Commentary
Judges Commentaries
→
Devotional
Judges Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→