bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 2
Judges 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
1
Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac arweiniais chwi i'r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.
2
Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?
3
Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o'ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau fydd yn fagl i chwi.
4
A phan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
5
Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i'r ARGLWYDD.
6
A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i'w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad.
7
A'r bobl a wasanaethasant yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaethai efe er Israel.
8
A bu farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant.
9
A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
10
A'r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr ARGLWYDD, na'i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.
11
A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim:
12
Ac a wrthodasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a'u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o'u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr ARGLWYDD.
13
A hwy a wrthodasant yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.
14
A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a'u hanrheithiasant hwy; ac efe a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.
15
I ba le bynnag yr aethant, llaw yr ARGLWYDD oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr ARGLWYDD, ac fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.
16
Eto yr ARGLWYDD a gododd farnwyr, y rhai a'u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.
17
Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD; ond ni wnaethant hwy felly.
18
A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda'r barnwr, ac a'u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a'u cystuddwyr.
19
A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na'u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â'u gweithredoedd eu hunain, nac â'u ffordd wrthnysig.
20
A dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais;
21
Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o'u blaen hwynt neb o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw:
22
I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr ARGLWYDD, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio.
23
Am hynny yr ARGLWYDD a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21