bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 9
Judges 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 10 →
1
Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam, gan ddywedyd,
2
Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a'ch cnawd chwi ydwyf fi.
3
A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a'u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywedasant, Ein brawd ni yw efe.
4
A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal‐berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef.
5
Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwbbaal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai.
6
A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.
7
A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo DUW arnoch chwithau.
8
Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni.
9
Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm braster, â'r hwn trwof fi yr anrhydeddant DDUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
10
A'r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
11
Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm melystra, ac â'm ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?
12
Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
13
A'r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â'm melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau DUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
14
Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
15
A'r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o'r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.
16
Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal, ac â'i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo:
17
(Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a'ch gwaredodd chwi o law Midian:
18
A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:)
19
Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal, ac â'i dŷ ef, y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau:
20
Ac onid e, eled tân allan o Abimelech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac ysed Abimelech.
21
A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.
22
Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.
23
A DUW a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech:
24
Fel y delai y traha a wnaethid â deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a'u lladdodd hwynt ac ar wŷr Sichem, y rhai a'i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.
25
A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a'r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech.
26
A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a'i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno.
27
A hwy a aethant i'r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn llawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech.
28
A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Jerwbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem ni ef?
29
O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlha dy lu, a thyred allan.
30
A phan glybu Sebul, llywodraethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddicllonedd ef.
31
Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a'i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i'th erbyn.
32
Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a'r bobl sydd gyda thi, a chynllwyn yn y maes:
33
A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele, pan ddelo efe a'r bobl sydd gydag ef allan i'th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a ellych.
34
Ac Abimelech a gyfododd, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin.
35
A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a'r bobl y rhai oedd gydag ef, o'r cynllwyn.
36
A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.
37
A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim.
38
Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, â'r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma'r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i'w herbyn.
39
A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech.
40
Ac Abimelech a'i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o'i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth.
41
Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a'i frodyr o breswylio yn Sichem.
42
A thrannoeth y daeth y bobl allan i'r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech.
43
Ac efe a gymerth y bobl, ac a'u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o'r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a'u trawodd hwynt.
44
Ac Abimelech, a'r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a'r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a'u trawsant hwy.
45
Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a'i heuodd â halen.
46
A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith.
47
A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem.
48
Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a'r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o'r coed, ac a'i cymerth hi, ac a'i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.
49
A'r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a'u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.
50
Yna Abimelech a aeth i Thebes; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a'i henillodd hi.
51
Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas; a'r holl wŷr a'r gwragedd, a'r holl rai o'r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaea ant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr.
52
Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y tŵr, i'w losgi ef â thân.
53
A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef.
54
Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a'i lladdodd ef. A'i lanc a'i trywanodd ef, ac efe a fu farw.
55
A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i'w fangre.
56
Felly y talodd DUW ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnaethai efe i'w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thrigain.
57
A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd DUW ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerwbaal a ddaeth arnynt hwy.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21