bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Judges 4
Judges 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
1
A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, wedi marw Ehwd.
2
A'r ARGLWYDD a'u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd.
3
A meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD: canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd.
4
A Debora y broffwydes, gwraig Lapidoth, hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw.
5
Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel, ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn.
6
A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes‐Nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, Dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon?
7
A mi a dynnaf atat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a'i gerbydau, a'i liaws; ac a'i rhoddaf ef yn dy law di.
8
A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af.
9
A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr ARGLWYDD Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.
10
A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Debora a aeth i fyny gydag ef.
11
A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes.
12
A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor.
13
A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison.
14
A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD Sisera yn dy law di: onid aeth yr ARGLWYDD allan o'th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl.
15
A'r ARGLWYDD a ddrylliodd Sisera, a'i holl gerbydau, a'i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed.
16
Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt.
17
Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.
18
A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i'r babell, a hi a'i gorchuddiodd ef â gwrthban.
19
Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a'i diododd ef, ac a'i gorchuddiodd.
20
Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes.
21
Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o'r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a'i gwthiodd i'r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw.
22
Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i'w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoel yn ei arlais.
23
Felly y darostyngodd DUW y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel.
24
A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21