bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 10
Zechariah 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 11 →
1
Erchwch gan yr ARGLWYDD law mewn pryd diweddar law; a'r ARGLWYDD a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.
2
Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.
3
Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys ARGLWYDD y lluoedd a ymwelodd â'i braidd tŷ Jwda, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel.
4
Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.
5
A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr ARGLWYDD gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.
6
A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt.
7
Bydd Effraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win: a'u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr ARGLWYDD.
8
Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant.
9
A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y'm cofiant, a byddant fyw gyda'u plant, a dychwelant.
10
A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt.
11
Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith.
12
Nerthaf hwynt hefyd yn yr ARGLWYDD, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
Recommended Reading
Commentary
Zechariah Commentaries
→
Devotional
Zechariah Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→