bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 6
Zechariah 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
1
Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres.
2
Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,
3
Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.
4
Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?
5
A'r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear.
6
Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a'r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a'r brithion a ânt allan i'r deheudir.
7
A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear.
8
Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.
9
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
10
Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia:
11
Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad;
12
A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gŵr a'i enw BLAGURYN: o'i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr ARGLWYDD:
13
Ie, teml yr ARGLWYDD a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.
14
A'r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr ARGLWYDD.
15
A'r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD DDUW.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
Recommended Reading
Commentary
Zechariah Commentaries
→
Devotional
Zechariah Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→