bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 13
Zechariah 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 14 →
1
Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.
2
A bydd y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o'r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o'r wlad.
3
A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo.
4
A bydd y dydd hwnnw, i'r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo:
5
Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuenctid.
6
A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.
7
Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.
8
A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.
9
A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14