bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 11
Zechariah 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 12 →
1
Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd.
2
Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf.
3
Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen.
4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa;
5
Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a'u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi: a'u bugeiliaid nid arbedant hwynt.
6
Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o'u llaw hwy.
7
A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd.
8
A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a'm henaid a alarodd arnynt hwy, a'u henaid hwythau a'm ffieiddiodd innau.
9
Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.
10
A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â'r holl bobl.
11
A'r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.
12
A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a'm gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian.
13
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr ARGLWYDD, i'r crochenydd.
14
Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.
16
Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.
17
Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
Recommended Reading
Commentary
Zechariah Commentaries
→
Devotional
Zechariah Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→