bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 9
Zechariah 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 10 →
1
Baich gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr ARGLWYDD, fel yr eiddo holl lwythau Israel.
2
A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn.
3
A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd.
4
Wele, yr ARGLWYDD a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân.
5
Ascalon a'i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir.
6
Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.
7
A mi a gymeraf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n DUW ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad.
8
A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â'm llygaid.
9
Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen.
10
Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a'r march oddi wrth Jerwsalem, a'r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd: a'i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaear.
11
A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.
12
Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg:
13
Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y'th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus:
14
A'r ARGLWYDD a welir trostynt, a'i saeth ef a â allan fel mellten: a'r ARGLWYDD DDUW a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau.
15
ARGLWYDD y lluoedd a'u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor.
16
A'r ARGLWYDD eu DUW a'u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef.
17
Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14