bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 5
Zechariah 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
1
Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg.
2
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais, Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a'i hyd yn ugain cufydd, a'i led yn ddeg cufydd.
3
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o'r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o'r tu acw, yn ei hôl hi.
4
Dygaf hi allan, medd ARGLWYDD y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i'm henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerrig.
5
Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan.
6
A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Effa ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear.
7
Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa.
8
Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr effa; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.
9
A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a'r nefoedd.
10
Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned â'r effa?
11
Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dŷ yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14