bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 7
Zechariah 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
1
Ac yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Dareius y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, sef Cisleu;
2
Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a'u gwŷr, i dŷ DDUW, i weddïo gerbron yr ARGLWYDD,
3
Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?
4
Yna gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
5
Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?
6
A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?
7
Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a'r dyffryndir?
8
A daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, gan ddywedyd,
9
Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i'w frawd:
10
Ac na orthrymwch y weddw a'r amddifad, y dieithr a'r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg bob un i'w gilydd yn eich calonnau.
11
Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed.
12
Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd ARGLWYDD y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd.
13
A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly y galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd ARGLWYDD y lluoedd.
14
Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a'r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14