bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zechariah 2
Zechariah 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 3 →
1
Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur.
2
A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.
3
Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.
4
Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o'i mewn.
5
Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.
6
Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD.
7
O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon.
8
Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.
9
Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i'w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd.
10
Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.
11
A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atat.
12
A'r ARGLWYDD a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn.
13
Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr ARGLWYDD: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14