bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Luke 22
Luke 22
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
1
AC ydd oedd gwyl y bara croyw yn agos, yr hon a elwir Pasc.
2
A’r Archoffeiriait ar Gwyr‐llen oedd yn ceisiaw pa wedd y lleðynt ef: o bleit ydd oedd arnynt ofn y bobl.
3
Yno ydd aeth Satan y mewn Iudas, yr hwn a elwit Iscariot, ac y oedd o rif y dauddec.
4
Ac ef aeth ymaith, ac a ymðiddanawdd a’r Archoffeiriait, a’r llywodraethwyr y Templ, pa wedd y gwnai ei vrad ef yddwynt.
5
Ac ydd oedd yn llawen ganthwynt, ac a gytunesont roddy arian iddaw.
6
Ac ef a gytunoð, ac a gaisiawdd amser addas yw vradychy ef yddwynt, yn absen y popul.
7
Yno y daeth y dydd y bara croyw, pan oedd angenrait aberthy’r Pasc.
8
Ac ef a ddanvones Petr ac Ioan, can ddywedyt, Ewch, a pharatowch y ni y Pasc, val y gallom ei vwyta.
9
Ac wy a ddywedesont wrthaw, P’le y myny di ei baratoi?
10
Ac ef a ðyvot wrthwynt, Nycha, gwedy yd eloch y mewn i’r dinas, y cyfervydd a chwi ddyn, yn dwyn steneit o ddw f r: cynlynwch hwnw ir tuy ydd el y mewn,
11
a’ dywedwch wrth wr y tuy, Yr Athro a ddywait wrthyt, Pl’e mae’r ystauell lle bwytavwyf vy-Pasc y gyd a’m discipulon?
12
Ac ef a ddengys ywch ’goruch ystavell vawr wedy’r drwsiaw: yno vv ei paratowch.
13
Yno ydd aethant ac y cawsant mal y dywedesei ef wrthynt, ac wy a paratoesant y Pasc,
14
A’ gwedy dyvot yr awr, ydd esteddawdd, a’r daudec Apostol gyd ac ef.
15
Yno y dyvot ef wrthynt, Mi a gwbl ðesyfais vwyta’r Pasc hwn gyd a chvvy chwi, cyn dioðefwyf.
16
Can ys dywedaf wrthych, na vwytawyf o hano mwy o hyn allan, yd y ny chyflawner yn‐teyrnas Duw.
17
Ac ef a gymerth y cwpan ac a ddiolches, ac a ddyvot, Cymerwch hwn, a rhānwch yn eich plith.
18
Can ys dywedaf wrthych, Nid yfaf o ffrwyth y winwydden, yd y ’n y ddel teyrnas D d uw.
19
Ac ef a gymerth vara, a ’gwedy iddo ddiol vv ch, ef ei tores, ac a roddes yddwynt, can ddywedyt, Hwnn yw vy‐corph: yr hwn a roddir trosoch: gwnewch hyn er cof am danaf.
20
Yr vn modd hefyt wedi iddo swpery e gymerth y cwpan, can ddywedyt, Y cwpan hwn yw’r Testament newydd yn vy gwaet, yr hwn a ellyngir y trosoch.
21
Eithyr nycha, llaw hwn am bradycha, ys y gyd a mi ar y vort.
22
Ac yn wir Map y dyn a gerða megisy darparwyt: eithr gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y bradychir ef.
23
Yno y dechraesont ymofyn yn ei plith ehun, pwy o hanwynt vyddei a wnei hyny. Yr Euāgel ar ddydd S. Bartholomeus.
24
Ac e gyvodes ymryson yn eu plith, pwy o hanaðynt a debygit ei vot yn vwyaf.
25
Ac ef a ddyvot wrthynt, Brenhinoedd y Cenedloedd a deyrnasant arnynt, ar ei ai h’arglwyddiaethant a elwir yn Bendevigion da.
26
Eithyr na vydd y chwi velly: anid byðet y mwyaf yn eich plith chwi megis y lleiaf: a’r pennaf, megis yr hwn a vo yn gweini.
27
Canys pa‐vn vwyaf, ai hwn ys a’n eisteð ar‐y‐vort, ai ’r hwn ys y’n gweini? Anyd mvvyaf yr vn a vo yn eistedd‐ar-y‐vort? Ac ydd wyf vi yn eich mysc mal vn yn gweini.
28
A’ chwychwi yw’r ei’n arosesoch gyd a mi yn vy‐provedigaethae.
29
Am hyny y gosodeis y chwi deyrnas, megis y gosododd vy‐Tad i mi nef,
30
mal y galloch vwyta, ac yfet ar vy‐bort yn vy‐teyrnas, ar eisteddvae, a’ barny dauddecllwyt yr Israel.
31
Ar Arglwydd a ddyvot, Simon, Simon, nycha, Satan a’ch ðeisyfawdd, er eich nithiaw megis gwenith.
32
An’d mi a weddiais trosot, na dðefficiai dy ffydd. Can hyny pan ith ymchweler ir iavvn, cadarnha dy vroder.
33
Ac ef a ddyvot wrthaw, Arglwydd, ydd wyf yn parat y vynet gyd a thi y garchar ac angae.
34
Eithyr ef a ddyvot, Ys dywedaf wrthyt, Petr, ny chan y ceiliawc heddyw, cyn y ti wady deirgwaith vy adnabot.
35
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Pan eich anvoneis eb gwd, ac yscrepan, ac yscidiae, a vu arnoch eisiau dim? Ac wy a ddywedesont, Na ddo ddim.
36
Yno y dyvot ef wrthynt, Eithr yr awrhon y neb ys y gantaw gwd, cymeret, a’r vn ffynyt yscrepan: a’r nep ny bo gāthaw yr vn, gwerthet ei bais, a’ phrynet gleddyf.
37
Can ys dywedaf ychwi, pan yw eto hyn ys y escrivennedic, ys angenrait ei gyflawni yno vi, Ac y gyd ar ei enwir y cyfrifwyt ef: can ys diamau bod diben yr awrhon am y pethae a yscrifenvvyt ohano vi.
38
Ac wy a ddywedesont, Arglwydd, nycha, ll’yma ddau gleddyf. Ac ef a ddyvot wrthwynt, Digon yw.
39
Ac ef a ddeuth allan, ac aeth (megis ydd oedd ef gynefin) i vonyth yr olewydd, a’ei ddiscipulon ei canlynesont.
40
A’ gwedy y ddawot ef ir van, e ddyvot wrthwynt, Gweðiwch nad eloch ym‐provedigaeth.
41
Ac ef a dynnawdd y wrthynt, yn‐cylch ergit carec, ac a roes ei ’liniae ar lawr ac a weddiawdd,
42
can ddywedyt, Y Tad a’s ewyllysy, ys mut y cwpan hwn y wrthyf, eithyr nid vy ewyllys i, namyn dy ewyllys di a gyflawner.
43
Ac a ymddangoses yddaw Angel o’r nef, yn ei confforddiaw ef.
44
Eithyr ac ef mewn cyfingdra meddvvl, ef a weddiawdd yn ddyvalach: a’ ei chwys ef ytoedd megis deigreu gwaet, yn treiglo i lawr yd y ddaear.
45
Ac ef a gyfodes o weðiaw, ac a ðauth at ei ddiscipulon, ac ei cafas wy yn cyscy gan dristit.
46
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Paam y cyscwch? Cyfodwch a’ gweddiwch nad eloch ym‐provedigaeth.
47
A thra oeð ef etwa yn ymddiðan, nycha dorfa a’r hwn a elwit Iudas vn or dauðec, aeth o ei blaen wy, ac a nesaodd at yr Iesu y’w gusany.
48
A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Iudas, a vradychy di Vap y dyn a chusan?
49
A’ phan welawdd yr ei oedd yn y gylch ef, beth a ddelei: wy ddywedesont wrthaw, Arglwydd, a drawom ni a chleddyf?
50
Ac vn o hanwynt a drawodd was yr Archoffeiriat, ac a dores i glust ddehen ymaith.
51
Yno ’r Iesu atepawdd, ac a ddyvot, Goddefwch hvvy yd hynn. Ac ef a gyfurddawdd a ei glust, ac ei iachaodd ef.
52
Yno y dyvot yr Iesu wrth yr Archoffeiriat ac wrth lywodraethwyr y Templ, a’r Henurieit yr ei a ddauthesei attaw, A ddaetho‐chwi allan megis at leitr a chleddyfae ac a ffynn?
53
Pan oeddwn paunydd gyd a chwi yn y templ, nyd estenesoch ddwylo ym erbyn: eithyr hon yw eich gwir awr, a’ gallu yr tywyllw ch.
54
Yno y cymersont ef, ac yr arwenesont, ac ei ducesont i duy ’r Archoffeiriat. Ac Petr ei canlynawdd o hirbell.
55
Ac wedy yddynt gynnae tan yn cenawl y llys, a’ chydeistedd i lawr, ydd eisteddawdd Petr hefyt yn ei plith.
56
A’ rhyw vorwyn vveini a y canvu ef val ydd oedd e yn eistedd wrth tan, ac wedy iði edrych yn graff arnaw, hi ddyvot, Ac ydd oedd y dyn hwn y gyd ac ef.
57
Ac ef y gwadawdd ef, can ddywedyt, Ha wreic, nid adwaen i ddim hanaw.
58
Ac ychydic yn ol, y gwelawdd dyn arall ef, ac y dyvot Ac ydd wyt ti thef yn vn o hanwynt. An’d Petr a ddyvot, Ha‐ ddyn, nag wyf.
59
Ac yn cylch awr yn ol hynny, vn arall a gadarnhaodd, gan ddywedyt. Yn wir ac ydd oedd y dyn hwn gyd ac ef: can ys Galileat ytyw.
60
Ac Petr a ddyvot, A ddyn, ny wn pa ddywedy. Ac yn y van ac ef eto yn ymddiddan, y canawdd y ceiliawc.
61
Yno yr Arglwydd a ymchoelawdd, ac a edrychawdd ar Petr: ac a ddaeth yn‐cof Petr ymadrodd yr Arglwydd py wedd y dywedesei wrthaw, Cyn canu ’r ceiliawc, tu a ’m gwedy dairgwaith.
62
Ac Petr a aeth allan, ac a wylawdd yn chwerw.
63
A’r gwyr a ddaliesent yr Iesu, ei watwor a’ ei vaeddu a wnaethant.
64
A’ gwedy yddwynt guddiaw ei lygait, y trawsōt ef ar y wynep, ac y govynesont yddaw, gan ddywedyt. Prophwyta pwy ath trawodd.
65
A’ llawer o gabl ’airie eraill a ddywetesont yn y erbyn ef.
66
Ac er cynted ydd oedd hi yn ddydd, ydd ymgynullawdd Henurieit y popul, a’r Archoffeiriait a’r gwyr llen, ac yr arwenesont ef y’w Seneddr hwy, can ddywedyt.
67
Ai tu yw’r Christ? dywait i ni. Ac ef a ddyvot wrthwynt, P’es dywedwn y chwy, ny’s credech.
68
A’ phe hefyt ydd holaf, nim atepwch ac ni’m gellwngwch ymaith.
69
Gwedy hynn yr eistedd Map y dyn ar ddeheulaw gallu Duw.
70
Yno y dywedesont oll, Yw‐ti can hynny yn Vap Duw? Ac ef a ddyvot wrthynt, Ydd yw chwi yn dywedyt vy‐bot.
71
Yno y dywedesont wy, Pa reid i ni mwy wrth testoliaeth? canys clywsam ein hunain o ei enae ehun.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24