bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Luke 23
Luke 23
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
1
YNo y cyvodes yr oll lliaws o hanynt, ac y ducesont ef at Pilatus.
2
Ac wy a a ddechraesont ei gyhuddaw, can ddywedyt. Hwn yma a gawsam yn troi’r bobyl, ac yn gohardd taly teyrnget i Caisar, can ddywedyt, mae ef yw Christ Vrenhin.
3
Ac Pilatus a ’ovynnawdd iddaw, can ddywedyt, Ai ti‐yw’r Brenhin yr Iuddaeon? Ac ef atepawdd iddo, ac addyvot, Tu ys ydd yn ei ddywedyt.
4
Yno y dyvot Pilatus wrth yr Archoffeiriait, ac wrth y popl, Nyd wyf i yn cahel dim bai ar y dyn hwn.
5
Ac wyntae ymlewhay a wnaethant, can ddywedyt, Mae ef yn cynnurfy ’r popul, gan dany dysc tros oll Iudaia. Ac yn dechrae o Galilea yd yma.
6
Ac Pilatus pan glypu son am Galilea, a ovynawdd, ai dyn o’r Galilea ytoed ef.
7
A’ phan wybu mae o gyvoeth Herod yr hanoedd, ef ei danvones at Herod, ac ydd oedd yntae hefyt yn‐Caerusalem y dyðiae hyny.
8
A’ phan weles Herod yr Iesu, ef a lawenechawdd yn vawr: can ys ydd oedd yn hir gantaw am ei weled ef er es talm, erwydd iðaw glywed son llawer o bethae am danaw, ac ydd oedd e yn gobeithiaw gahel gweled gwnaethy ryw arwydd y ganthaw.
9
Yno ydd ymholes ac ef am lawer o bethae: eithyr nyd atepawdd ef ddim iddo.
10
Yr Archoffeiriait ar Gwyr‐llen a safasant ac ei cyhuddesont yn daerddrud.
11
Ac Herod ef a ei gywdawddwyr ny roesont vri arnaw, ac ei gwatworesant, ac ei gwiscesont ef o wynn, ac a ei danvonawð drachefyn at Pilatus.
12
Ac ar y dydd hwnw ydd aeth Pilatus a’ Herod yn gymddeithion: canys cyn na hyny yð oeð yn ’elyniaeth rhyngtwynt.
13
Yno Pilatus a ’alwoð yn cyt yr Archoffeiriait a’r llywyodwyr a’r popul, ac a ðyuot wrthwynt,
14
Chwi ðucesoch y dyn hwn ataf, val vn a vai yn troi ’r popl, a’ nycha, mi ei holeis ef yn eich gwydd, ac ny chevais i vn bai ar y dyn hwn, o’r pethae ydd ywch y’w gahuddaw:
15
na ddo, na Herod chwaith: can ys anvoneis chwi ataw: a’ nycha, dim teilwng o angae ny wnaed yddaw.
16
Erwydd paam, mi ei cospaf, ac ei gellyngaf yn rhydd.
17
(Can ys angenrait oedd iddaw ellwng ryvv vn yddwynt yn rhydd ar yr wyl.)
18
Yno yr oll lliaws a lefawdd ar vnwaith, can ddywedyt, Ymaith ac ef, a’ gellwng Barabbas yn rhyð i ni:
19
yr hwn am draws gyfodiat a wnaethit yn y dinas, ac am lawryddiaeth a ddodesit yn‐carchar.
20
Yno Pilatus a ddyvot wrthyn drachefyn, can ewyllysy rhyddhay ’r Iesu.
21
An’d wy lefent can ddywedyt, Croc, croc ef.
22
Ac ef a ddyvot wrthynt y drydydd waith, An’d pa ddrwc a wnaeth ef: ny chefais ynthaw achos angae: am hyny mi ei cospaf, ac ei gellyngaf yn rhydd.
23
Ac wyntwy oeddent daerach a llefeu vchel, can erchi y groci ef: a’ ei llefae hwy a’r Archoffeiriait a ’orvu.
24
Velly Pilatus a varnawdd yddwynt gahel ei h’arch.
25
Ac ef a ellyggawð yddwynt hwn‐am gyfodiat a’ llawryddiaeth a roesit yn carchar: ys ef yr hwn a archesent wy, ac ef a roddes yr Iesu y wnaethy ’r ac ef a vynnent.
26
Ac val ydd oeddent yn ei arwein ef ymaith, wy ddaliesont vn Simon o Cyren, yn dyuot o’r maes, ac arnaw ef y gosodesont y groc, y’w dwyn ar ol yr Iesu.
27
Ac ydd oedd yn ei ganlyn ef turfa vawr o popul, ac o wragedd, a’r gvvragedd hyny oedd yn cwynofain ac yn g alary drostaw.
28
A’r Iesu a ymchwelawdd atwynt, can ddywedyt, Merchet Caerusalem, nac wylwch droso vi, ’n amyn wylwch trosoch eich hunain, a’ch plant.
29
Can ys, nycha, y daw’r dyddiae y dywedant, Gwyn ei byt yr hespion, a’r bruoedd ny chenedlesont erioed, ar bronnae ny roesant sugn.
30
Yno y dechreant dðywedyt wrth y monyddoedd, Syrthiwch arnam: ac wrth y brynnae, Cuddiwch ni.
31
Can ys a’s gwnant wy hynn ir prenn ijr, peth a wneir ir crin?
32
Ac Ac ydd oeddit yn arwein gyd ac ef dau ddrygddyn eraill y’w lladd.
33
A’ gwedy y dyvot hwy i’r lle, a elwyt y Penglocva, yno y crogesont ef, a’r drygddynion: vn ar y ddeheu, a’r all ar y aswy.
34
Yno y dyvot yr Iesu. Y Tad, maddae yddwynt, can na wyddon peth y maent yn ei wneythy r. Ac wy a barthesant ei ðillat, ac a vwriesant goelbreni.
35
A’r popul oedd yn sefyll, ac yn edrych: a’r llywiawdwyr ei gwatworent y gyd ac wynt, gan ðywedyt, Eraill a iachaeai: iachaet ehun, a’s ef y’w’r Christ, yr Etholedic can D d uw.
36
A’r milwyr hefyt y gwatworent ef, can ddawot a’ chynic vinegr ydd‐aw,
37
a’ dywedyt. A’s tu yw’r Brenhin yr Iuddaeon, iachaa tyhun.
38
Ac ydd oedd yscriuen wedyr yscrivemy ar ei uchaf, mewn llythyrae Groec, a’ Llatin, ac Hebreo, HVN YVVR BRENHIN YR IVDEON.
39
Ac vn or drygddynion a grocesit, y cablawdd ef, gan ddywedyt, A’s tu yw’r Christ, iachaa tuhun a’ ninae.
40
A’r llall a atepawdd, ac y ceryddawdd ef, can ddyweddyt, Anyd oes arnat ofn Duw, a’ thydy yn yr vn varn?
41
Ac ydd ym ni yn gyfiawnus yma, can ys ydd ym ni yn d erbyn y pethae y haeddawð ein gweithredoeð: eithyr ny wnaeth hwn ddim ancymmesur.
42
Ac ef a ddyvot wrth yr Iesu, Arglwydd, coffa vi pan ddelych ith teyrnas.
43
A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Yn wir y dywedaf y ti, heddyw y byddy gyd a mi ym‐paradwys.
44
Ac yð oedd hi yn‐cylch y chwechet awr: ac a vu tywyllwc h tros yr oll ddaiar, yd y nawvet awr.
45
A’r haul a dywyllwyt, a’llen y Templ a rwygwyd trwy hei chanawl.
46
A’r Iesu a lefawdd a llef vchel, ac a ddyvot, Y Tad, ith ddwylaw y cymennaf vy yspryt. A’ gwedy yddaw ddywedyt hyn, ef a anhetlawdd allan yr yspryt.
47
A’ phan weles y Cannwriad yr hyn a wnaethpwyt, ef a roes ’ogoniant i Dduw, can ddywedyt, Yn sicur ydd oedd y dyn hwn yn gyfiawn.
48
A’r oll turfa ar a ðauthei ynghyt er y golwc hynn, cann weled y pethae a ddaroedd, a guresont ei dwyvronae, ac ymchwelesont.
49
A’ ei oll gydnabot a savent o hir‐bell, a’r gwragedd y dylinesent ef or Galilaia, gan edrych ar y pethae hynn.
50
A’ nycha, ydd oedd gwr aei enw Ioseph, cygcorwr, gwr da, a’ chyfiawn.
51
Ef ny chytunesei a ei cygcor na’c a’ ei gweithret hwy, ac ef a hanoedd o’r Arimathaia, dinas yr Iuddaeon: yr hwn oedd yntef yn edrych am teyrnas Duw.
52
Hwn yma aeth at Pilatus, ac archawdd gorph yr Iesu,
53
ac ei tynnawdd i lawr, ac ei amdoes mewn lliein, ac egosodes mewn monwent wedy’r drychy o graic lle ny roesit nep ir ioet.
54
A’r dydd hwnw oeð y Darpar, a’r Sabbath oedd yn nesay.
55
A’r gwrageð hefyt yr ei oedd yn darddilyn, yr ei a ddaethent gyd ac ef o’r Galilea, a edrychesont ar y vonwēt a’ pha bodd y gesodesit y gorph ef.
56
Ac wynt a a ymchwelesont, ac a paratoesont aroglae, ac wylmentae, ac a ’orphoysesont y dydd Sabbath erwydd y gorchymyn.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24