bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Matthew 10
Matthew 10
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
1
AC ef a elwis ei ddauðec discipul ataw, ac a roddes y ddyn veddiant yn erbyn ysprytion aflan, yw tavly wy allan, ac y iachay pop haint a’ phop adwyth.
2
Ac enwae y dauddec Apostolion yw’r ei hyn. Y cyntaf Simon, a elwit Petr ac Andreas ei vrawt: Iaco vap Zebedeus, ac Ioan ei vrawt.
3
Philip a’ Bartholomeus: Thomas a’ Matthew y Publican: Iaco vap Alpheus, a’ Lebbeus a’ ei gyfenw yn Thaddaeus:
4
Simon y Cananit, ac Iudas Iscariot yr hwn hefyt y bradychawdd ef.
5
Y dauddec hyn a dd anfonawdd yr Iesu ymaith, ac a ’orchymynawdd yddwynt, gan ddywedyt, Nag ewch i ffordd y Cenedloeð, ac i ddinasoedd y Samarieit nag ewch y mewn:
6
anyd ewch yn hytrach at gyfer golledic ðefeit tuy Israel.
7
Ac wrth vyned precethwch, gan ðywedyt, Y mae teyrnas nef wedy dynesau yn agos.
8
Iachewch y cleifion, glanewch yr ei clawr: cyfodwch y meirw: bwriwch allan gythreulieit. Yn rrat y d erbyniesoch, yn rat rhowch.
9
Na veddwch ar aur, nag ariant, nac efydd yn eich gwregysae,
10
nag yscrepan ir daith, na dwy bais, nag escidiae, na ffon: can ys teilwng ir gweithwr ei vwyt.
11
Ac i pa ddinas pynac nei dref yd eloch, ymofynwch pwy ’sydd teilwng yn‐ddi, ac ynaw trigwch yn yd eloch o dd yno.
12
A’ phan ddeloch i duy anerchwch ef.
13
Ac a bydd y tuy yn teilwng, dauet eich tangneddyf arnaw: ac any bydd yn deilwng, ymchwelet eich tangneddyf atoch.
14
A’ phwy pynac a’r ny’s derbyn chwi, ac ny chlyw eich gairiae, pan ymadawoch o’r tuy hvvnvv nei ordinas hono, escutwch y llwch ywrth eich traet.
15
Yn wir y dywedaf y chwi, y bydd esmwythach ir ei o dir Sodom a’ Gomorrha yn‐dydd brawd nag ir dinas hono.
16
¶ Nycha, ydd wy vi yn eich d anvon mal defeit ynghenol bleiddiae: byddwch am hynny ddoethion mal seirph, a’ gwirion mal colom b enot.
17
Eithr ymogelwch rac dynion, canys wy ach roðāt chvvi at Eisteddfae ac ach yscyrsian yn ei Synagagae.
18
Ac ich dugir at y llywiawdwyr a’r Brenhinoedd om pleit i, er testiolaeth yddwynt, ac i’r Cenetloedd.
19
Eithr pan ich trawsroddan, na phryderwch pa vodd nei pa beth a ðywetoch: can ys roddir y chwy yn awr hono, pa beth a ddywetoch.
20
Can ys nid chwy chvvi yw’r ei a ddyweit, anyd yspryt eich Tad yr hwn a dywait ynoch.
21
A’r brawd a vradycha ’r brawd a varwolaeth, a’r tat y map, a’r plant a godant yn erbyn ei Rieni, ac a barāt yddwyn varw.
22
A’ dygasoc vyddwch gan bawp er mwyn vy Enw: anyd yr hwn a barao yd y dywedd, ef a gedwir.
23
A’ phan ich erlidiant yn y dinas hon, ciliwch i vn arall: can ys yn wir y dywedaf wrthych, na ’orphenwch oll ddinasoedd Israel, nes dawot Map y dyn.
24
Nid yw’r discipul uwch na ei athro, na’r gwas anaethvvr uwch na ei Arglwydd.
25
Digon ir discipul vot val y bo ei athro, a’r gwas anaethvvr val ei Arglwydd. A’s galwasan wr y tuy yn Beelzebub, pa veint mwy y galvvan ei duylwyth ef?
26
Nag ofnwch wy am hyny: can nad oes dim toedic, ar ny’s didoijr: na dim cuddiedic ar na ddaw i wybodoeth.
27
Hyn a ddywedaf ywch yn y tywyllwch, dywedwch yn y golau ni: a hyn a glywoch yn y ch glust, precethwch ar ben y tai.
28
Ac nac ofnwch yr ei a ladd y corph, ac ny allant ladd yr enait: eithyr yn hytrach ofnwch hwn, a ðichon gyfergolli yr enait y gyd a’r corph yn yffern.
29
Any werthir dau ederyn y to er fferling ac ny chwympa yr vn o hanynt i’r llawr heb evvyllys eich Tad chvvi?
30
Ac y mae hefyd eich oll wallt yn gyfrifedic.
31
Nac ofnwch gan hynny, chwi delwch mwy na llawer o adar yto.
32
Pwy pynac gā hynny am cyffesso i yngwydd dynion, hwnaw a gyffessaf vi nef hefyd yn‐gwydd vy‐Tad yr hwn ’sy yn y nefoedd.
33
A’ phwy pynac am gwad yngwydd dynion, hwnaw a wada vi hefyd yn‐gwydd vy‐tad yr hwn ’sy yn y nefoedd.
34
Na thybiwch vy‐ d ewot i dd anfon tangneddyf i’r ddayar: ny ddaethym y dd anfon tangneddyf any d y cleddyf.
35
Can ys‐daethim i osot dyn y ymrafaely yn erbyn ei dad a’r verch yn erbyn ei mam, ar waydd yn erbyn i chwegr.
36
A’ gelynion dyn vydd tuylwyth ei dy y hun.
37
Y nep a gar o tad ne vam yn vwy na my vi, ny d yw deilwng o hanof i. A’r nep y gar o vap ne verch yn vwy na my vi, ny d yw deilwng o hanof vi.
38
A’ hwn ny chymer ei groes, a chalyn ar v’ol i, ny d yw deilwng o hanafi.
39
Y nep a gatwo ei enait, ai cyll, a’r nep a gollo ei enad om pleit i, ai caidw.
40
Y nep ach d erbyn io chvvi, am d erbyn i: ar nep am d erbyn io vi, a dd erbyn hwn am d anfonawdd i.
41
Y nep a ðerbyn io brophwyt yn enw Prophwyt, a dd erbyn vv obr Prophwyt: a’r nep a dderbynio gyfiawn, yn enw cyfiawn, a dd erbyn vv obr y cyfiawn.
42
A’ phwy pynac a roddo ir vn o’r ei bychein hyn phiolet o ddwfr oer yn vnic, yn enw discipul, yn wir y dywedaf ychwi, ny chyll ef ei vv obr.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28