bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Matthew 27
Matthew 27
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A’ Phan ddeuth y borae, yð ymgyggorawð yr oll Archoffeiriait a’ Henurieit y popul yn erbyn yr Iesu, er ei roddy i angae,
2
ac aethant ymaith ac ef yn rhwym, ac ei rhoeāt Pontius Pilatus y l’ywiawdr.
3
Yno pan weles Iudas aei bradychawdd, ei ady ef yn auawc, e vu edivar ganthaw, ac a dduc drachefn y dec arucain ariant ir Archoffeiriait, a’r Henurieit,
4
gan ddywedyt, Pechais can vradychy gwaet gwirian. Wythae a ðywydesont, Peth yw hyny i ni? edrych ti.
5
Ac wedy yddaw davly yr ariant yn y Templ, ef a ymadawodd, ac aeth, ac a ymgrogawdd.
6
A’r Archoffeiriait a gymeresont yr ariant, ac a ddywedesont, Nyd cyfreithlawn i ni ei bwrw wy yn y Corbā, can ys gwerth gwaet ytyw.
7
A’ gwedy yddynt ymgydgyggori, wy brynesont ac wynt vaes y crochenydd i gladdy pererinion.
8
Ac am hyny y gelwir y maes hwnw Maes y gwaet yd y dydd heddyw.
9
(Yno y cwplawyt yr hynn a ddywedpwyt trwy Ieremias y Prophwyt, y ddywait, Ac wynt a gymersont ddec ar ucain ariant, gwerth y gwerthedic, yr hwn a brynesōt gan plāt ’r Israel.
10
Ac wynt eu roesont am vaes y crochenyð, megis y gossoddes yr Arglwydd ymy)
11
A’r Iesu a safawð geyr bron y llywyawdr, a’r llywyawdr a ovynawdd yddo, can ddywedyt, Ai ti’r Brehin yr Iuddaeon? A’r Iesn a ddyvot wrthaw, tu ei dywedeist.
12
A’ phan gyhuddwyt ef can yr Archoffeiwait ar Henurieit, nyd atepawdd ef ddim.
13
Yno y dyvot Pilatus wrthaw, A ny chlywy veint o pethae y maent wy yn ei roi yn dy erbyn?
14
Ac y nyd atepawdd ef yddo i vn gair, val y rryweddawdd y llywawdr yn vawr.
15
Ac ar yr wyl hono ydd arverei y llywiawdr ellwng ir popul vn carcharor yr hwn a vynnent.
16
Yno ydd oedd ganthwynt garcharor honneit a elwit Barabbas.
17
A’ gwedy yðynt ymgasclu yn‐cyt, Pilatus a ðyyvot wrthynt, Pa vn avynwch i mi ellwng y chwi, Barabas ai Iesu yr hwn a elwir Christ?
18
(canys ef a wyðiat yn dda mae o genvigen y roðesent ef.
19
Ac ef yn eisteð ar yr ’orseddvainc, ei wraic a ddanvonawdd attaw gā ðywedyt, Na vit i ti awnelych ar gvvr cyfiawn hwnnw, can ys goddefais lawer heðyw mewn breuddwyddion o ei a chos.)
20
A’r archoffeiriait a’r Henureit ymlewyð awnaethēt a’r bobl er mwyn govyn Barabbas, a’ cholli ’r Iesu.
21
A’r llywyawdur a atepawdd, ac a ddyvot wrthynt, Pa vn o’r ddau a vynwch i mi ei ellwng ychwy? Wyntae a ddywetsant Barabbas.
22
Pilatus a ðyvot wrthynt Peth awnaf ynte i Iesu yr hwn a elwir Christ? Wy oll a ddywedesont wrthaw, Croger ef.
23
Yno y dyvot y llywyawdur, An’d pa ddrwc y wnaeth ef? Yno y llefesont yn vwy, can ddywedyt, Croger ef.
24
Pan welawdd Pilatus na thycyei dim yddaw anid bot mwy o gynnwrf yn cody, ef a gymerth ddw f r, ac a’ olches ei ddwylaw geyr bronn y popul, can ddywedyt, Gwirian wyf y wrth waet y cyfiawn hwnn, edrychwch-chwi arnoch.
25
A’r oll popul a atepawð ac a ðyvot, Bid y waet ef arnam ni ar ein plant.
26
Ac val hynn y gellyngawdd ef Barabas yddynt, ac ef a yscyrsiodd yr Iesu, ac y rhodes ef yw groci.
27
Yno milwyr y llywiawdr a gymeresont yr Iesu ir dadlaeduy, ac a gynullesont attaw yr oll gywdawt,
28
ac ei dioscesont, ac roesant am danaw huc coch,
29
ac a blethesont coron ddrain ac ei dodesont ar ei benn, a’ chorsen yn ei law ddeheu, ac a blycesont ei glinie geir ei vron, ac ei gwatworesont, gan ddywedyt, Henpych‐well Brenhin yr Iuddeon,
30
ac wynt a boeresont arnaw, ac gymersont gorsen ac ei trawsont ar ei ben.
31
A’ gwedy yddwynt ei watwary, wy ei dioscesont ef o’r huc, ac ei gwiscesont ef aei ddillat ehun, ac aethant ac ef yw groci.
32
Ac a’n hwy yn mynet allan, eu cawsant ddyn o Cyren, a elwit Simon: a hwn a gompellasant i ddwyn y groc ef.
33
A’ phan ddaethan i le a elwit Golgotha, (ys ef yw hynny y Benglogva.)
34
Wy roesont yddaw yw yfet vinegr yn gymyscedic a bystyl: a’ gwedy yðo ei brovi, ny vynnawdd ef yvet.
35
Ac wedy yðynt y grogy ef, wy ranesont ei ddillat, ac a vwriesont goelbrenni, er cyflawny y peth, y ddywetpwyt trwy ’r Prophwyt, Wy a rannasant vy‐dillat yn eu plith, ac ar vy‐gwisc y bwriesont goelbren.
36
Ac wy a eisteddesant ac ei gwiliesont ef yno.
37
Ac ’osodesont hefyt vch ei benn ei achos yn escrivenedic Hvvn yvv Iesu y Brenhin yr Iudæon.
38
Yno y crogwyt ddaw leitr y gyd ac ef, vn ar ddehau, ac arall ar aswy.
39
A’r ei oedd yn mynet heibio, y caplesant ef, gan ysgytwyt ei pēnae,
40
a’ dywedyt, Ti yr hwn a ddestrywi ’r Tem p l, ac ei adaily mewn tri‐die, cadw dy hun: a’s tu yw Map Duw, descen o groc.
41
A’r vn modd yr Archoffeiriait y gwatworesont ef y gyd a’r Scrivenyddion, a’r Henurieit, a’r Pharisaieit gan ddywedyt.
42
Ef a waredawdd eraill, ac ny d all ef y ymwared ehun: a’s Brenhin yr Israel yw ef, descennet yr awrhon o groc, ac ni a gredwn ydd‐aw.
43
Mae e yn ymðiriet yn‐Duw, rhyðhaet ef yr awrhon, a’s myn ef ei gahel: can ys ef a ddyvot, Map Dew ytwyf.
44
Yr vn peth hefyt a eidliwiesont ydd‐aw, y llatron, yr ei a grocesit gyd ac ef.
45
Ac o’r chwechet awr, y bu tywyllwch ar yr oll ðaiar, yd y nawvet awr.
46
Ac yn cylch y nawved awr y llefawdd yr Iesu a llef vchel, gan ddywedyt, Eli, Eli, lamasabachthani? ys ef yw, Vy‐Duw, vy‐Duw, paam im gwrthodeist?
47
A’r ei o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsont, a ðywedesont, Mae hwn yn galw ar Elias.
48
Ac yn y van vn o hanynt o redawð, ac a gymerth yspong ac ei llanwodd o vinegr, ac a ei dodes ar gorsen, ac a roes iddaw yw yfet.
49
Ereill a ddywesont, Gad iddo: edrychwn, a ddel Elias y waredy ef.
50
Yno y llefawdd yr Iesu drachefyn a llef vchel, ac ef a vaðeuawdd yr yspryt.
51
A’ nycha, l’en y Templ a rwygwyd yn ðau, or cwr vcha yd yr isaf, a’r ddaear a grynawdd, a’r main a holltwyt,
52
a’r beddae a ymogeresont, a’ llawer o gyrph y Sainct yr ei a gyscesent, a godesent,
53
ac a ddaethant allan o’r beddae ar ol y gyfodiat ef, ac aethāt y mewn ir dinas sanctaidd, ac a ymddangosesont i lawer.
54
Pan weles y cann‐wriad, ar ei oedd gyd ac ef yn gwylie d yr Iesu, y ddaiar yn cryny, a’r pethe awneythesit, wy ofnesont yn vawr, can ddywedyt, Yn wir Map Duw yt oedd hwn.
55
Ac ydd oedd yno lawer o wragedd, yn edrych arnavv o bell, yr ei a gynlynesent yr Iesu o’r Galilea, gan weini yddaw.
56
Ym‐plith yr ei ydd oedd Mair Magdalen, a’ Mair mam Iaco ac Ioses, a’ mam plant Zebedeus.
57
A’ gwedi y myned hi yn hwyr, y daeth gwr goludawc o Arimathaia, a’ ei enw Ioseph, yr hwn vesei yntef yn ddiscipul ir Iesu.
58
Hwn aeth at Pilatus, ac archoð gorph yr Iesu. Yno y gorchymynawdd Pilatus bot roddy y corph.
59
Ac velly y cymerth Ioseph y corph, ac ei amdoes mewn llen lliein glan,
60
ac ei dodes yn ei vonwent newydd, yr hwn a drychesei ef mewn craic, ac a dreiglodd lech vawr ar ddrws y vonwent, ac aeth ymaith.
61
Ac ydd oedd Mair Vagdalen a’r Mair arall yn eystedd gyferbyn a’r bedd.
62
A’r dydd dranoeth yn ol parotoat y Sabbath, yr ymgynullawdd yr Archoffeiriat a’r Pharisaieit at Pilatus,
63
ac a ddywedesont, Arglwydd, e ddaw in cof ni ddywedyt o’r twyllwr hwnw, ac ef etwa yn vyw, O vewn tri‐die y cyfodaf,
64
gorchymyn gan hyny gadw y bedd yn ddilys yd y trydydd dydd, rac dyvot ei ddyscipulon o hyd nos a’ ei ladrata ef ffvvrd, a’ dywedyt wrth y popul, Ef a gyfododd o veirw: ac velly y byð y cyfeilorn dyweddaf yn waeth na’r cyntaf.
65
Yno y dyvot Pilatus wrthyn, ymae genwch wyliadwriaeth: ewch, a’ diogelwch val y gwyddoch.
66
Ac wy aethan, ac a ddiogelesant y bedd y gan y wiliadwriaeth, ac a in selieson y llech.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28